Cystadlaethau i ddathlu mamau a Gwener y Groglith yng Ngherrigydrudion
Cystadleuaeth gwneud cerdyn Sul y Mamau fydd canolbwynt gwasanaeth anffurfiol ar Sul y Mamau yng Ngherrigydrudion (22 Mawrth). Bydd Caffi...
Darllen mwyCroeso i adran Weinidogaeth Wledig y wefan. Yma fe gewch wybodaeth am ddatblygiad strategaeth wledig ac adnoddau i gefnogi eglwysi a chymunedau gwledig.

Mae Esgob Llanelwy wedi penodi’r Parch Hermione Morris yn Swyddog Materion Gwledig yr Esgobaeth. Mae Hermione, sy’n offeiriad yn Ardal Genhadaeth Tanat –Efyrnwy, yn cymryd lle’r Parch Heather Fenton yn y swydd.
“Yn llawn llawenydd, gan ymhyfrydu yn y fraint a’r cyfrifoldeb, rwyf wedi derbyn penodiad gan Esgob Gregory fel Swyddog Materion Gwledig yr Esgobaeth, gan geisio dilyn ôl troed cadarn iawn y Parch Heather Fenton”.
Darllen mwy
Mae Cass Meurig yn dweud wrthon ni am ei heglwys hi: Eglwys Crist, y Bala.
Mae’r Llyfryn gyferbyn yn cael ei rannu gydag eglwysi gwledig ledled Maldwyn ac yn cael ei ddefnyddio fel sail i weddi yn y cymunedau.
Mae copïau ar gael gan Archddiacon Maldwyn, Barry Wilson neu mae modd eu lawrlwytho yma.
Mae fersiwn print bras ar ffurf dogfen Word ar gael yma.
Mae’r map yn dangos y gwahanol fathau o gymdogaethau ledled yr esgobaeth: o drefi gwledig i bentrefi gwledig, ac ardaloedd gwasgaredig o aneddiadau prin eu poblogaeth. Mae’r categorïau o wledigrwydd a gynhwysir ar y map yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru.

