Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Cystadlaethau i ddathlu mamau a Gwener y Groglith yng Ngherrigydrudion

Cystadleuaeth gwneud cerdyn Sul y Mamau fydd canolbwynt gwasanaeth anffurfiol ar Sul y Mamau yng Ngherrigydrudion (22 Mawrth).

Bydd Caffi Mair, caffi misol yr eglwys, yn cyfarfod ar y pedwerydd Sul o bob mis yn Ystafell y Plwyf yn Eglwys Santes Fair Magdalen yn y pentref.

Fis Mawrth, mae’r  Sul hwn yn Sul y Mamau ac mae arweinydd caffi’r eglwys, Cas Meurig, yn addo gwasanaeth anffurfiol, rhyngweithiol a chyfeillgar i’r teulu.  Meddai’r fam i dri o’r Bala: “Rwy’n gofyn i bobl ddod â’u cardiau Sul y Mamau wedi’u gwneud gartref i’n cystadleuaeth. Bydd yna wobrau i’r plant ac i oedolion, ond, cofiwch, dim lawr lwytho!

“Mae Caffi Mair yn cyfarfod bob mis, mae’n cychwyn gyda the neu goffi, teisen a sgwrs ac yna bydd gweithgareddau crefft neu gwis.   Byddwn hefyd yn cael gwasanaeth anffurfiol sy’n cynnwys trafod, fideos, neu sgwrs fer, caneuon a gweddiau.

“Bydd teuluoedd yr ardal yn dod yno, mae’n lle croesawgar a chyfeillgar, ar agor i bawb.”

Mae Eglwys Santes Fair Magdalen yn rhan o Ardal Genhadaeth Penedeyrn yn Esgobaeth Llanelwy.  Credir iddi gael ei sefydlu mor gynnar â 440 Oed Crist ac mae’n cael ei chrybwyll yn Rhestr Drethu Norwich yn 1254. Cafodd ei thrwsio a’i helaethu yn 1503, ac, fel llawer o eglwysi eraill Cymru, ei hadfer yn y bedwaredd ganrif a’r bymtheg gan y Fictorianiaid.

Heddiw, mae’n cynnal amrywiaeth o wahanol wasanaethau bob Sul ac mae’n cymryd rhan yn ymgynghoriad Esgobaeth Llanelwy ar eglwysi gwledig. Mae pobl yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar sut y gall eglwysi gynnal eu cymunedau gwledig yn well.   Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal gydol Fis Mawrth, gan gynnwys yn Eglwys Crist, y Bala, ar ddydd Sul 29 Mawrth am 2.00pm.

Mae Eglwys y Santes Fair Magdalen yn cynllunio ar gyfer yr Wythnos Fawr a’r Pasg.   Ddydd Gwener y Groglith, 10 Ebrill, bydd yna ddigwyddiad i’r teulu, sydd wedi dod yn boblogaidd iawn y blynyddoedd diwethaf.  Meddai Cass: “Bydd digwyddiad Gwener y Groglith yn cychwyn yn yr eglwys ble byddwn yn actio, gyda’n gilydd, ddigwyddiadau’r Wythnos Fawr, o fynediad Iesu ar gefn yr asyn i Jeriwsalem hyd at y Swper Olaf.

“Yna, byddwn yn mynd i’r fynwent ble bydd Iesu’n gweddïo, yn cael ei gipio gan filwyr yng Ngardd Gethsemane, ei ddedfrydu gan Peilat ac yna, yn y diwedd, yn cael i gymryd at y Groes.

“Bydd yna ganu ar y ffordd a byns y grog ar y diwedd.  Eleni, rydyn ni’n cynnal cystadleuaeth teisen y Pasg i’r plant, gyda gwobrwyon.

“This service takes place in Welsh with translation available and everyone is welcome.”<}0{>”Bydd y gwasanaeth hwn yn Gymraeg gyda chyfieithu ar gael ac mae croeso i bawb.”

You can find out more about Café Church at Cerrigydrudion and other churches nearby at https://www.penedeyrnmissionarea.co.uk/home.htm.

Mae Esgobaeth Llanelwy yn un o chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, Talaith Annibynnol y Cymundod Anglicanaidd.   Cynhelir gwasanaethau a gweithgareddau’n rheolaidd mewn 214 o eglwysi ac mae’r esgobaeth yn gofalu am 50 o Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.