Rydyn ni’n credu fod yr eglwys yn bodoli ar gyfer tri pheth:
Maen nhw yna yn y Testament Newydd, yn nysgeidiaeth Iesu ac ym mywyd yr eglwys gynnar. Maen nhw yn llythyrau Paul ac yn Actau’r Apostolion.
Rydyn ni’n dechrau gyda’r syniad o ffydd. Rydyn ni’n dod i’r eglwys i gyfarfod Duw ac, wrth i ni ganolbwyntio ar ein bywydau, gallwn ofyn y cwestiynau:
Rydyn ni’n bodoli i dyfu ffydd.
Ond rwy’ hefyd yn credu y dylai cymuned Gristnogol fod yn le o obaith. Fe ddylen ni fod yn obeithiol ynghylch y dyfodol. Wedi’r cyfan, rydyn ni’n credu yn Nuw y mae’r dyfodol yn ei ddwylo, sy’n rheoli ein tynged ac sy’n cynnig rhodd o fywyd tragwyddol, bywyd tragwyddol sy’n cychwyn nawr. Felly, a ydyn ni fel Cristnogion, a ydyn ni fel teulu esgobaethol, pobl sy’n obeithiol, sy’n cyffwrdd bywydau’r rhai o’n cwmpas, yn dod ag addewid o obaith a llawenydd a chariad a heddwch gyda ni? Ydyn ni’n tyfu ffydd? Ac a ydyn ni’n dod â gobaith?
Ac, yn olaf, ni ddylai ein ffydd fyth fod ynghylch geiriau. Dylai ein ffydd fod ynghylch
gweithredu ac, yn Iesu, rydyn ni’n gweld y person sy’n canolbwyntio, nid ar y crefyddol, nid ar y cefnog, nid ar y balch, ond ar y tlodion, ar y rhai sy’n galaru, ar y rhai sydd â newyn a syched am gyfiawnder. Ar y plant, ar y gweddwon, ar y rhai ar ymylon cymdeithas, ar y tlotaf a’r rhai sydd wedi’u taflu allan. A ydyn ni’n eglwys sy’n arddangos cariad? A yw pobl yn cael eu helpu gan y gwaith rydyn ni’n ei wneud? A yw pobl yn cael eu galluogi i fod yn fwy o nhw eu hunain oherwydd ein bod ni’n eu caru? Felly, ar y pethau hyn y byddwn ni’n canolbwyntio yn ein dyfodol.
Rydyn ni’n cael ein galw, chi a fi, i fod yn bobl sy’n tyfu ffydd, sy’n dod â gobaith ac sy’n arddangos cariad.
Y rhain yw’r tri gwerthoedd craidd sydd gennym i’w dangos ac i fyw iddyn nhw, i fod yn bobl sy’n tyfu ffydd, yn dod â gobaith ac yn arddangos cariad. Am hyn, diolch i Dduw, Amen.


![]()
![]()
Rydym yn credu ac yn datgan Newyddion Da Iesu Grist, yn benodol:
Mae hyn yn Newyddion Da, oherwydd ei fod yn ein hannog bob un i sylweddoli fod Duw yn ein caru ni, ei fod ymdrechu i gwrdd â ni ym mherson ei Fab, a thrwyddo ef yn ein derbyn fel ag yr ydym. Mae’n gofyn i ni ddefnyddio ei nerth i fyw bywyd hyd yr eithaf, ac i ddod ag iachâd i’r byd.