Mae Casgliad yr Esgobaeth yn rhodd ariannol gan ein cynulleidfaoedd i elusen a gaiff ei dewis gan aelodau Cynhadledd Esgobaethol Llanelwy. Cyflwynir Casgliad yr Esgobaeth i’r elusen a gaiff ei dewis yn y Gynhadledd Esgobaethol bob mis Hydref.
Gwybodaeth i ddilyn.
Lansiwyd apêl Casgliad yr Esgobaeth 2024 yng Nghadeirlan Llanelwy yng Nghynhadledd yr Esgobaeth. Y derbynnydd fydd Beiciau Gwaed Cymru.
2024 Cyflwynir Casgliad yr Esgobaeth 2024 i Beiciau Gwaed Cymru sy’n darparu gwasanaeth cludo di-dâl i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan ddibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr a rhoddion.
EsgobaethMae gwirfoddolwyr yn cludo gwaed, cyffuriau, meinweoedd dynol ac eitemau meddygol eraill rhwng ysbytai, banciau trallwyso gwaed a chyfleusterau meddygol eraill i gynorthwyo’r GIG.
Mae gan Beiciau Gwaed Cymru wyth grŵp a drefnir yn lleol, dau ohonynt ar waith yn ardal Esgobaeth Llanelwy: Grŵp Wrecsam, sy’n gwasanaethu gogledd-ddwyrain Cymru a Grŵp Powys, sy’n gwasanaethu’r canolbarth.
Yn ogystal, gall y beicwyr gludo llaeth mamau o Fanciau Llaeth y GIG yng Nghaer, Birmingham a Bryste i’w hysbytai lleol ac, mewn argyfwng, yn syth i famau a’u babanod yn eu cartrefi.

Bydd Casgliad yr Esgobaeth 2023 yn mynd i gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n darparu rhwydwaith o fanciau bwyd ledled Cymru a’r DU.
Mi fydd Casgliad yr Esgobaeth 2022 yn mynd i brosiest ffermio yn y Esgobaeth De o Orllewin Tanganyika.
Yn y ffilm hon yn Saesneg, mae Hilary ac Adrian Murray yn ymweld â’r fferm ac yn clywed am y cynlluniau.