Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

AELODAETH Y GWEITHGOR STRATEGAETH WLEDIG

Mae Gweithgor Strategaeth Wledig wedi ei gynnull i oruchwylio a llunio datblygiad Strategaeth Wledig ar gyfer Esgobaeth Llanelwy. Bydd hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o farn a phrofiadau personol ac o’r etholaeth wledig ehangach. Bydd y Gweithgor yn gyfrifol am nodi blaenoriaethau, curadu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a llunio cynigion i’w gweithredu.

Mae’r grŵp yn cynnwys:

 

John Gambles, Cadeirydd

Treuliais yrfa hir fel athro, arweinydd ysgol ac, yn fwy diweddar, yn swyddog addysg yn cefnogi pobl ifanc i gyflawni dewisiadau cadarnhaol wrth adael ysgol.  Mae hyn wedi golygu dysgu rheoli arian cyhoeddus a llwyddo i newid trwy greadigrwydd a chonsensws, a’m gobaith ydy dwyn hyn i’r grŵp.

Ers ymddeol yn 2017, mae gen i fwy o amser ar gyfer materion fel Warden Sant Tysilio, a Warden chyd-gadeirydd lleyg Ardal Genhadaeth Glyn y Groes.

Yng Nglyn y Groes, caeodd dwy o’n heglwysi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; mae’r unarddeg sy’n weddill i gyd yn rai gwledig ac mae’n bleser cael bod yn rhan o’r Grŵp Strategaeth Wledig. Fy ngobaith ydy y bydd ein gwaith yn ein harwain at dwf go iawn, yn hytrach na cheisio goroesi yn unig.

Barry Wilson, Archddiacon Maldwyn

Cefais f’ordeinio yng nghadeirlan Caerlwytgoed ym 1997. Bûm yn gweini fel curad yn Stone, cyn dod yn Gaplan yn Ysgol Abbots Bromley. Yn ddiweddarach, fe fues i’n gwasanaethu fel Ficer ym mhlwyfi gwledig Madeley a Betley. Yn 2013 fe symudais i Esgobaeth Caer, yn Rheithor Yr Heledd Wen, wedyn Is-ddeon Cadeirlan Caer. Ym mis Hydref 2018, fe’m penodwyd yn Archddiacon Maldwyn, gyda phortffolio sy’n cynnwys holl eglwysi gwledig yr esgobaeth.

Nia Wyn Morris

Dwi wedi bod yn gweithio mewn lleoliad gwledig am yr 16 mlynedd ddiwethaf – Y Bala am 10 mlynedd a bellach yn Y Drenewydd ar fy chweched flwyddyn. Dwi wedi bod ynghlwm â chau eglwysi, aildrefnu eglwysi, trafferthion ariannol (dyled o £30,000 pan gyrhaeddais Y Bala).

Ar hyn bryd, rwy’n Arweinydd Ardal Genhadaeth wledig, lle mae fy ngweinidogaeth yn cynnwys eglwys drefol, yn ogystal â rhai gwledig. Dwi wedi profi’r gorfoledd a’r rhwystredigaeth. Dwi hefyd yn ymboeni am ddyfodol ein heglwysi gwledig ac yn sylweddoli fod angen gweithredu dull realistig a gonest os ydyn ni o ddifrif ynglŷn â thyfu Teyrnas Dduw. Mae angen i eglwysi gwledig sydd â photensial fod yn ganolfannau ymarferol o gefnogaeth ac ymgysylltu yn ein cymunedau, ac nid fel rhai… cynulleidfaoedd sy’n cyfarfod ar y Sul yn unig. Cefais wahoddiad i ymuno â’r grŵp – ac wrth gytuno, fe allaf ddod â’m profiad a rhywfaint o ddoethineb gobeithio!

Hermione Morris

Hyd at yn ddiweddar, ac am y bum mlynedd ddiwethaf, fe fues i’n Arweinydd Ardal Genhadaeth Efyrnwy yn Archddiaconiaeth Maldwyn. Bellach, rwy’n offeiriad â gofal, yn gweithio yn Ardal Genhadaeth newydd Tanat ac Efyrnwy. Wedi treulio 20 mlynedd fel nyrs, yn bennaf gyda gofal lliniarol, penderfynais ddilyn yr alwad i’r offeiriadaeth a chael f’ordeinio yn 2007. Derbyniais fy nghuradiaeth gyntaf mewn plwyf maestrefol yn Ne Cymru.

Bellach yn Llanfyllin ers dros 8 mlynedd, dwi’n gweinidogaethu, nid yn unig fel offeiriad plwyf mewn lleoliad gwledig ac amaethyddol iawn, ond wedi priodi ffermwr bîff a defaid, dwi’n gweld fy hun fel ffermwraig dymhorol, gan mod i’n helpu ar y fferm pan alla i, yn bennaf pan ddaw hi’n amser ŵyna. Dwi hefyd yn rhan o dîm caplaniaeth i’r Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd ac yn wirfoddolwr newydd ar gyfer y Rhwydwaith Cymunedol Amaethyddol, gan ymweld â Marchnad Da Byw Y Trallwng yn rhinwedd hynny.

Daniel Stroud

Ers symud i’r Eglwys yng Nghymru o’r Eglwys Esgobol yn yr Unol Daleithiau, dwi wedi bod yn gwasanaethu fel Rheithor ar Grŵp Eglwysi Bro Famau ym Mryniau Clwyd, sef pump o eglwysi yn y pentrefi rhwng Yr Wyddgrug a Rhuthun. Roedd hwn yn newid dramatig o gyd-destun fy ngalwad ddiwethaf, sef Cynorthwy-ydd i Reithor Eglwys St. Thomas, Whitemarsh, Philadelffia ym Mhennsylvania yn yr Unol Daleithiau, ardal brifddinasol sydd â phoblogaeth bron yr un faint â Chymru!

O gofio faint o bobl yn ein hesgobaeth sy’n byw mewn cyd-destun gwledig gyda holl heriau a bendithion unigryw bywyd cefn gwlad, a gwendidau strategaethau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar blwyfi trefol a lled-drefol, mae’n wych gweld ein bod yn cymryd y camau bwriadol hyn i ffocysu ar gynnal y mannau anghysbell ond pwysig hyn o genhadaeth a gweinidogaeth yn ein cymunedau. Os mai mynd allan i’r holl fyd a phregethu’r Efengyl rydyn ni i fod i’w wneud, rhaid inni dalu sylw dyledus i gefn gwlad, yn ogystal â’r trefi a’r dinasoedd!

Cass Meurig Thomas

Gyda chefndir fel cerddor, fe’m trwyddedwyd fel Efengylydd yn 2016 ac yn ddiweddar wedi ymgymryd â rôl Arweinydd Ardal Genhadaeth Penedeyrn. Mae gen i brofiad penodol o bob math o fynegiant newydd o eglwys mewn cyd-destun gwledig; mae fy mhrosiectau presennol yn cynnwys ‘Jam ar y Sul’ (yn seiliedig ar gerddoriaeth yn y gymuned) a ‘Cerrig Camu’ (estyn allan i deuluoedd). Dwi hefyd wedi cynnal cyfres o nosweithiau prosiect yr Aelwyd (Storïau o’r Galon), fel modd i ymgysylltu’n gymunedol. Fel un sy’n siarad Cymraeg, gallaf gynnig sgiliau’n gweithredu mewn cyd-destun trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae gen i hefyd brofiad sylweddol o ddiwylliant capel a gweithio’n ecwmenaidd. Gallaf hefyd gynnig Chwarae yng Nghwmni Duw , gan fy mod yn hyfforddwr gyda Godly Play UK, yn ogystal â Deep Talk, sef datblygiad o Chwarae gyda Duw sy’n galluogi timau i drafod materion dyfnach.  .

Jennie Willson

Martin King

Fi ydy Trysorydd a Chydlynydd Prosiect Gweledigaeth 21G i Eglwys Sant Cynfarch a’r Santes Fair, Llanfair Dyffryn Clwyd. Mae’r prosiect yn cynnwys gwaith adnewyddu ac aildrefnu, gan gynnwys adeiladu ystafell gyfarfod, cegin a thoiled yn yr eglwys ganoloesol.

Yn 68 oed, dwi wedi treulio fy mywyd cyfan mewn cysylltiad agos â’r eglwys, yn gyntaf gyda’r Eglwys Fethodistaidd, yna’n lled-wledig gydag Eglwys Loegr ac yn ddiweddar yn lled-wledig gyda’r Eglwys yng Nghymru. Yn ystod yr amser hwnnw, fe fûm yn gwasanaethu mewn sawl un o swyddfeydd eglwysi, Cylchdaith, Deoniaeth ac Ardal Genhadaeth leol.

Mae hi bob amser wedi bod yn nod imi geisio cynaliadwyedd ariannol i eglwysi lleol, tra ar yr un pryd yn wynebu heriau a chyfleoedd i dyfu yng nghenhadaeth yr eglwys. Mae strategaeth wledig effeithiol a chynaliadwy ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru’n hanfodol i’r eglwys genhadu ac efengylu yn yr ardaloedd hyn.

Arwyn Lloyd Jones

Yn 48 oed ac yn ŵr, a thad i 3 o blant, dwi wedi bod yn athro cynradd am 26 blynedd, ac yn Bennaeth am 16 o’r blynyddoedd hynny. Yn ystod yr amser hwn, dwi wedi addysgu plant o 4-11 oed ac wedi gweithio gyda rhieni, llywodraethwyr, ac asiantaethau allanol yn ddyddiol. Fe ddes i ffydd yn 19 oed ac wedi bod ynghlwm ag amrywiaeth o eglwysi a gwaith, gyda phobl o bob oed.

Gobaith i’r grŵp: I lunio, a deall yn llwyr, strategaeth gweinidogaeth wledig sy’n berthnasol i fywyd heddiw, yn angerddol ac sy’n newid bywydau pobl.

Katie Macey

Fel un fu’n gweithio mewn ysgolion eglwys erioed, rydw i ar fy mhumed flwyddyn fel pennaeth Ysgol Gynradd Madras, ysgol wirfoddol a gynorthwyir, yn Llannerch Banna. Mae hon yn lleoliad gwledig lle mae’r eglwys yn union gyferbyn â’r ysgol. Dros y blynyddoedd, mae perthynas adeiladol wedi datblygu gyda’r eglwys, rhywbeth sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan mai’r eglwys a’r ysgol sydd wrth galon y gymuned. Fy ngobaith ydy gweld y grŵp yma’n hwyluso cymunedau gwledig i sicrhau bod eglwysi gwledig nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu.

O’m rhan fy hun, bu fy nheulu bob amser yn aelodau gweithgar yn ein heglwysi; mae fy ngŵr a minnau’n cymryd rhan mewn gwasanaethau yn eglwys y pentref, yn ogystal â bod yn aelodau o’r Cyngor Plwyf.

Diane McCarthy

Bûm yn Ysgrifenyddes Esgobaeth Llanelwy am 10 mlynedd, yn dilyn gyrfa fasnachol ac yn y banc. Mae gen i galon dros adeiladu dyfodol cynaliadwy i’r Eglwys yng Nghymru a chyflwyno’r llawenydd o fod yn ddilynwr Iesu Grist i gymaint o bobl â phosib. Ces fy magu mewn ardal wledig ac mae’r eglwys lle dwi’n addoli bellach wrth wraidd cymuned wledig fechan. Dwi’n falch fod yr esgobaeth am fynd i’r afael â chyfleoedd a heriau cenhadaeth a gweinidogaeth wledig ac yn ei chyfrif hi’n fraint i gael y cyfle i wasanaethau ar y Gweithgor.

Heather Fenton

Fi ydy Cynghorwr Bywyd Gwledig yr esgobaeth. Rydw i’n gyn-offeiriad wedi ymddeol yn dal Caniatâd i Weinyddu. Bûm yn offeiriad mewn sawl plwyf, yn beriglor mewn dau ac yn Ddeon Ardal yn ogystal â bod yn Gaplan ysgol eglwys, lle fues i hefyd yn Gadeirydd y Llywodraethwyr. Y byd cyhoeddi ydy fy nghefndir, lle bûm yn gynllunydd llyfrau am nifer o flynyddoedd. Roeddwn yn olygydd cylchgrawn The Reader a helpu sefydlu a chynnal y cylchgrawn Country Way (a gyhoeddwyd gan Ganolfan Arthur Rank).

Esther Andrews

Rwy’n Gaplan Trwyddedig Plant a Phobl Ifanc ar gyfer Ardaloedd Cenhadaeth Dinbych a Dyffryn Clwyd. Mae fy swyddogaeth yn golygu gweithio gyda llawer o blant, pobl ifanc a theuluoedd mewn lleoliadau gwledig, pob un â’i brofiad gwahanol o fyw yng nghefn gwlad Cymru, gyda’i harddwch a’i heriau unigryw. Cyn cael fy hyfforddi, fe dreuliais chwe blynedd yn gweithio fel gwystlwr yn Y Rhyl, felly mae sawl stori ddifyr y gallwn eu hadrodd!

Treuliais fisoedd cyntaf fy rôl (un arloesol i’r esgobaeth) yn ymgyfarwyddo â’r Ardaloedd Cenhadaeth dan fy ngofal, dod i ddeall y cyd-destun a holi amryw o gwestiynau! Gobeithio y bydd bod yn rhan o’r grŵp strategaeth wledig yn helpu pob un ohonon ni i barhau i ofyn cwestiynau mwy treiddgar a phenodol am fywyd a gweinidogaeth cefn gwlad, a pharhau i geisio canfod sut wedd sydd ar Deyrnas Dduw yng Nghymru.