
Mae Esgob Llanelwy wedi penodi’r Parch Hermione Morris yn Swyddog Materion Gwledig yr Esgobaeth. Mae Hermione, sy’n offeiriad yn Ardal Genhadaeth Tanat –Efyrnwy, yn cymryd lle’r Parch Heather Fenton yn y swydd.
Yn 2019, treuliodd Hermione, sy’n briod â ffermwr bîff a defaid ac yn byw yn Llanfyllin, dri mis sabothol yn ymweld â chaplaniaethau a Swyddogion Gwledig Esgobaethol ar draws Cymru a Lloegr. Meddai: “Credaf fod fy apwyntiad i’r swydd hon yn ddilyniant i’r adeg o archwilio a darganfod. Rwy’n ymwybodol iawn fod bod yn wledig yn fwy nag amaethyddiaeth a gwaith y tir a’i fod yn gwahaniaethu’n ôl y cyd-destun lleol. Un o’r pethau rwy’n edrych ymlaen ato’n fawr iawn yw darganfod sut beth yw bywyd gwledig yn ac ar gyfer Ardaloedd Cenhadaeth eraill yn yr esgobaeth, gan weithio a dathlu gyda phobl yno, wrth i ni barhau i weinidogaethu cariad Duw a’r newyddion da i bawb.
“Yn llawn llawenydd, gan ymhyfrydu yn y fraint a’r cyfrifoldeb, rwyf wedi derbyn penodiad gan Esgob Gregory fel Swyddog Materion Gwledig yr Esgobaeth, gan geisio dilyn ôl troed cadarn iawn y Parch Heather Fenton”.
Cafodd Hermione ei magu yng nghefn gwlad Caint , gan dreulio’i 24 mlynedd gyntaf yn gweithio mewn mannau trefol ac is-drefol, fel nyrs ac yna fel offeiriad. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae hi wedi byw a gweinidogaethu yn Llanfyllin, yng nghefn gwlad Sir Drefaldwyn, sy’n rhan o Ardal Genhadaeth Tanat-Efyrnwy. Cyfarfu a phriodi â’i gŵr yn ystod y cyfnod hwn gan ddod yr hyn y mae hi’n ei alw’n ‘ffermwr ysbeidiol’ yn ogystal â bod yn wraig fferm ac offeiriad mewn gofal o bedair eglwys mewn pum cymuned.
Ychwanegodd Hermione: “Trwy fy mhriodas a dod i ddeall ffermio a’r bywyd amaethyddol yn gynyddol well, a gyda’m gwreiddiau mewn cymunedau gwledig ac amaethyddol, mae Duw wedi tanio’r angerdd sydd ynof i ymestyn allan ac i weinidogaethu’r rhai sy’n byw ac yn gweithio’n bennaf yn y bywyd amaethyddol ac ar y tir.”
Cafodd Hermione ei phenodi am dair blynedd i ddechrau ac yn ystod y 12 mis cyntaf mae’n gobeithio:
Yn ogystal â gweinidogaethu o fewn yr Eglwys yng Nghymru, mae Hermione hefyd yn rhan o dîm caplaniaid Cymdeithas Amaethyddol y Sioe Fawr yn Llanelwedd; yn wirfoddolwr gyda Rhwydwaith Cymuned Ffermio Cymru ac yn ymweld â mart y Trallwng fel rhan o’r swyddi hynny; ac mae’n aelod o Gymdeithas y Caplaniaid Amaethyddol.
Cysylltwch â Hermione: 01691 648306 neu gan email.