Clergy Log In Church in Wales Church near me

ESGOBAETH LLANELWY

SWYDDFA'R ESGOBAETH

Er mwyn anfon neges ebost at un o staff y swyddfa, cliciwch ar yr enw (mewn gwyrdd) – mae’n ddolen i’w cyfeiriad ebost.

Ysgrifennydd yr Esgobaeth (Prif Weithredwr)

Olwen Lintern-Smyth: 07300 234625 / OlwenLinternSmyth@cinw.org.uk 

Olwen Lintern-Smyth sy’n arwain tîm gweinyddol yr esgobaeth i chwarae ei ran yn y gwaith o lunio, datblygu a chyflawni strategaeth a pholisïau’r esgobaeth er mwyn cefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth Duw yng ngogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru. Mae Olwen yn rhugl yn y Gymraeg. Cafodd ei geni a’i magu yn y canolbarth cyn symud i Rydychen lle’r aeth i’r brifysgol a dilyn gyrfa ym myd cyhoeddi. Yn fwyaf diweddar, bu’n Brif Weithredwr elusen e-ddysgu.

GWEINYDDIAETH AC ADNODDAU DYNOL

Pamela Vernon: 01745 532581 / pamelavernon@cinw.org.uk
SWYDDOG GWEINYDDIAETH AC ADNODDAU DYNOL YR ESGOBAETH

Pamela yw Swyddog Gweinyddiaeth ac Adnoddau Dynol yr Esgobaeth ac mae’n cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Gweinidogaeth. Mae’n cydlynu’r Gynhadledd Esgobaethol a chyfarfodydd y Pwyllgor Sefydlog ac yn goruchwylio proses y Datganiadau Blynyddol. Hi sy’n trafod gwaith recriwtio yn yr Esgobaeth ac mae’n cefnogi’r Tîm Gweinidogaeth.

Debbie Camp: 01745 582245 / debbiecamp@cinw.org.uk 
CYNORTHWYYDD GWEINYDDOL

Mae Debbie’n rhoi cymorth gweinyddol yn y swyddfa ac yn ymwneud â bwcio Cadeirlan Llanelwy. Mae’n debygol mai Debbie fydd yn ateb y ffôn, neu’n eich cyfarch wrth y drws os dewch yma i gyfarfod.

GWEITHREDIADAU

Jonathan Morris: 07534 095749 / 01745 532590 / jonathanmorris@cinw.org.uk
CYFARWYDDWR GWEITHREDIADAU

Mae Jonathan yn datblygu, yn gweithredu ac yn monitro’r strategaeth ar gyfer cyflawni gweledigaeth yr esgobaeth sef Tyfu Ffydd, Dod â Gobaith a Dangos Cariad. Mae’n ystyried rhaglenni effeithiol ym meysydd newid a hyfforddi er mwyn hybu gwelliannau gweithredol a llywodraethiant da. Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth gydlynu gweithrediadau mewn ffordd sy’n rhyddhau amser ac egni i helpu’r eglwys i dyfu.

Ben Morgan: 01745 532588 / BenMorgan@churchinwales.org.uk
GWEINYDDWR CYLLIDO

Mae Ben yn rhoi cyngor ac arweiniad i eglwysi sy’n chwilio am gyllid ar gyfer prosiectau.

Lowri Kirkham: 07951867739/01745 582245 lowrikirkham@cinw.org.uk

Rheolwr Prosiect

CYLLID

Michelle Snape: 01745 532589 / MichelleSnape@cinw.org.uk

SWYDDOG CYLLID

Michelle sy’n rheoli systemau ariannol yr Esgobaeth. Mae’n cydweithio ag Ysgrifennydd yr Esgobaeth a’r Bwrdd Cyllid i ddatblygu’r strategaeth ariannol ac mae’n paratoi’r gyllideb a diweddariadau rheolaidd ar gyfer ymddiriedolwyr y Bwrdd Cyllid. Mae’n goruchwylio gwaith prosesu anfonebau, cyflogres staff yr Esgobaeth a chyllid ar ran Swyddfa’r Esgobaeth ac mae’n cyfrannu at ddatblygu cynllun Cyfran yr Ardaloedd Cenhadaeth. Mae Michelle’n cydweithio â gwahanol sefydliadau partner i sicrhau bod taliadau’n cael eu gwneud a’u derbyn a bod ein rhwymedigaethau cyfreithiol ac elusennol yn cael eu cyflawni. Michelle yw trysorydd y Pwyllgor Grantiau, Bwrdd Eiddo’r Esgobaeth a Chymdeithas y Gweddwon, Plant Amddifad a Dibynyddion a gweinyddwr yr Is-bwyllgor Buddsoddi.

Adam Taylor: 01745 532583 / 07506 136486 / adamtaylor@cinw.org.uk
SWYDDOG CYNORTHWYOL CYLLID AC ADNODDAU

Adam yw prif bwynt cyswllt trysoryddion Ardaloedd Cenhadaeth ac eglwysi o ran meddalwedd cyfrifon Finance Co-ordinator, yn cynnwys darparu hyfforddiant.  Mae’n cydweithio â Michelle, y Swyddog Cyllid, i wneud taliadau a chynnal cyfriflyfrau’r Esgobaeth. Mae Adam yn gweithio rhan-amser a gall y trefniadau amrywio o wythnos i wythnos yn ôl gofynion y gwaith.

Addysg

Louise Williams: 07932433976 louisewilliams@cinw.org.uk
CYFARWYDDWR ADDYSG ESGOBAETHOL GOGLEDD CYMRU

Mae gan Louise gyfrifoldeb am 49 o ysgolion eglwys ledled esgobaeth Llanelwy. Mae’n goruchwylio’r gwaith o ddarparu addysg statudol o ansawdd da, sy’n mynegi ethos Cristnogaeth ac sydd wrth galon cenhadaeth yr Eglwys yn yr esgobaeth.

Anna Walsh: 01745 532594 / 07918 624675 / AnnaWalsh@cinw.org.uk
SWYDDOG YSGOLION (CWRICWLWM)

Mae Anna yn gyfrifol am gefnogi’r ysgolion ar faterion yn ymwneud â’r cwricwlwm, cyngor am arolygiadau Adran 50 a Rhaglen Ymwelwyr yr Esgob.

Rhiannon Smith 01745 532592 / RhiannonSmith@cinw.org.uk
SWYDDOG YSGOLION (LLYWODRAETHU A DERBYN)

Mae Rhianon yn cefnogi gwaith Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol Gogledd Cymru ac mae ganddi gyfrifoldeb am lywodraethiant a derbyniadau Ysgolion Eglwys yn Esgobaeth Llanelwy, gan roi arweiniad ar faterion statudol a chyfreithiol.

Hannah Daniels: 01745 532587 / hannahdaniels@cinw.org.uk
SWYDDOG PLANT AC IEUENCTID

Mae Hannah yn cydlynu gwaith pobl ifanc a chaplaniaethau ledled yr Esgobaeth. Mae’n cydweithio â gweithwyr plant ac ieuenctid, gan feithrin partneriaethau â sefydliadau eraill a helpu ein rhwydwaith o wirfoddolwyr i wneud mwy.

Ymgysylltu

Sarah Wheat: 01745 532596/ 07909257899 / sarahwheat@cinw.org.uk
SWYDDOG YMGYSYLLTU

Sarah yw swyddog arweiniol y Grŵp Llywio Ymgysylltu ac mae’n helpu eglwysi i ymgysylltu â’u cymunedau lleol.  Mae’n cefnogi llawer o’r prosiectau Ffydd ar Waith.  Gan amlaf, mae Sarah yn gweithio o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.

Jane Finn: janefinn@cinw.org.uk
Arweinydd Datblygu Llwybr y Bererindod 

07483 613479

cyfathrebiadau

Karen Maurice: 01745 532599 / 07918133420 / karenmaurice@cinw.org.uk
SWYDDOG CYFATHREBU’R ESGOBAETH

Karen sy’n delio â holl ymholiadau’r cyfryngau. Hi yw golygydd Teulu Asaph ac mae’n goruchwylio’r gwaith o greu holl gyhoeddiadau’r esgobaeth. Mae’n gwneud ffilmiau at ddibenion hyfforddi a gweinidogaethu ac i’w defnyddio ar wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yr esgobaeth. Mae’n chwilio am ffyrdd o hyrwyddo gwasanaethau, digwyddiadau, newyddion ac achlysuron arbennig trwy wahanol gyfryngau.

Eiddo

RYAN MARSH:  07399 019165 / RYANMARSH@CINW.ORG.UK
AROLYGYDD EGLWYSI’R ESGOBAETH

Arolygydd Eglwysi’r Esgobaeth sy’n sicrhau bod dros 200 o eglwysi hanesyddol yn cael eu harchwilio bob pum mlynedd. Yn ogystal, mae’n cydweithio â’n Hardaloedd Cenhadaeth i ganfod cyfleoedd i newid – yn cynnwys addasu adeiladau presennol i ddarparu ar gyfer gofynion modern, symud tuag at y targed carbon sero net, datblygu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth ac ymwelwyr, cefnogi gwirfoddolwyr lleol, cynnig cyngor cyffredinol ar reoli ystadau, a datblygu strategaeth eiddo.

CERI JONES: 01745 532584 / CERIJONES@CINW.ORG.UK
SWYDDOG CADWRAETH A DATBLYGU EGLWYSI

Mae Ceri’n cydweithio ag Ardaloedd Cenhadaeth ac eglwysi i ganfod ffyrdd priodol o ymdrin ag adeiladau a safleoedd er mwyn diwallu anghenion yn awr ac i’r dyfodol, gan warchod a gwella eu harwyddocâd pensaernïol a hanesyddol. Mae Ceri’n gweinyddu gwaith Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth  ar Ofalu am Eglwysi ac yn rheoli’r hawlebau ar-lein. Mae hefyd yn cynorthwyo ein hysgolion â chyllid CRAMP.

EMYR WYN HUGHES: 01745 532586/ 07980582403 / EMYRHUGHES@CINW.ORG.UK
AROLYGYDD PERSONDAI’R ESGOBAETH

Mae gan Emyr gyfrifoldeb am ofalu am bob persondy yn yr Esgobaeth. Mae’n gweithio am y Corff y Cynrychiolwyr. Mae’n rheoli’r rhaglen cynnal a chadw, addasu, gwella a newid persondai er mwyn sicrhau eu bod yn dderbyniol ac yn ddiogel i’n clerigion a’u teuluoedd.


CYSYLLTU Â SWYDDFA'R ESGOBAETH

BYDDAI'N DDA CLYWED ODDI WRTHYCH

Gallwch ffonio’r switsfwrdd ar 01745 582245 neu ysgrifennu atom:

Swyddfa’r Esgobaeth,
Stryd Fawr,
Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0RD

Neu anfon neges atom trwy lenwi’r ffurflen hon.




Watermark Icon

StAR - Newyddion o Esgobaeth Llanelwy

Cofrestrwch i dderbyn StAR bob wythnos trwy e-bost