Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

TÎM EIDDO YR ESGOBAETH

Esgobaeth Llanelwy

Tim eiddo yr esgobaeth sy’n gofalu am yr holl eglwysi, adeiladau, cartrefi, neuaddau a thir sy’n eiddo i Esgobaeth Llanelwy a Chorff y Cynrychiolwyr yn Esgobaeth Llanelwy.

Mae’r tîm yn barod iawn i’ch helpu os oes gennych gwestiynau am gynnal a chadw’ch eglwys, trefnu archwiliadau, cynllunio i adnewyddu adeilad neu rentu tŷ a fu’n ficerdy.

Ryan Marsh:  07399 019165 / ryanmarsh@cinw.org.uk
AROLYGYDD EGLWYSI’R ESGOBAETH

Arolygydd Eglwysi’r Esgobaeth sy’n sicrhau bod dros 200 o eglwysi hanesyddol yn cael eu harchwilio bob pum mlynedd. Yn ogystal, mae’n cydweithio â’n Hardaloedd Cenhadaeth i ganfod cyfleoedd i newid – yn cynnwys addasu adeiladau presennol i ddarparu ar gyfer gofynion modern, symud tuag at y targed carbon sero net, datblygu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth ac ymwelwyr, cefnogi gwirfoddolwyr lleol, cynnig cyngor cyffredinol ar reoli ystadau, a datblygu strategaeth eiddo.

Emyr Wyn Hughes: 01745 532586/ 07980582403 / emyrhughes@cinw.org.uk
AROLYGYDD PERSONDAI’R ESGOBAETH

Mae gan Emyr gyfrifoldeb am ofalu am bob persondy yn yr Esgobaeth. Mae’n rheoli’r rhaglen cynnal a chadw, addasu, gwella a newid persondai er mwyn sicrhau eu bod yn dderbyniol ac yn ddiogel i’n clerigion a’u teuluoedd.

Ceri Jones: 01745 532584 / cerijones@cinw.org.uk
SWYDDOG CADWRAETH A DATBLYGU EGLWYSI

Mae Ceri’n cydweithio ag Ardaloedd Cenhadaeth ac eglwysi i ganfod ffyrdd priodol o ymdrin ag adeiladau a safleoedd er mwyn diwallu anghenion yn awr ac i’r dyfodol, gan warchod a gwella eu harwyddocâd pensaernïol a hanesyddol. Mae Ceri’n gweinyddu gwaith Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth  ar Ofalu am Eglwysi ac yn rheoli’r hawlebau ar-lein. Mae hefyd yn cynorthwyo ein hysgolion â chyllid CRAMP.