“Mae’n stori hyfryd, ond…”
Mae pawb ohonom yn gyfarwydd â stori geni Iesu – y stabl, y bugeiliaid, y doethion a’r seren. Ond pa wahaniaeth mae hi’n ei wneud heddiw? Mae Cristnogion yn credu ei bod yn dangos ymroddiad llwyr Duw i’r ddynoliaeth ac i’r blaned neilltuol hon ymhlith miliynau. Oherwydd credwn fod y dyn, Iesu, hefyd yn Dduw a ddaeth yn un ohonom ni, a byw bywyd go iawn â’i holl bleserau a phroblemau. Credwn i Dduw ddod atom yn faban, oherwydd ei awydd i gydsefyll â merched a dynion.
Ydi hi’n fwy na stori neis? Rydw i’n credu ei bod, oherwydd os yw’n wir, ac rydw i’n argyhoeddedig ei bod hi, yna mae’n newid realiti yn sylfaenol. Mae Duw wedi rhoi arwydd pendant ei fod yn dymuno i ddynoliaeth lwyddo, tyfu y tu hwnt i’n dioddefiadau, a goresgyn drygioni yn y byd hwn. Wrth ddarllen am erchyllterau a gyflawnwyd ar Iddewon neu Balestiniaid, am y driniaeth arswydus a gaiff pobl dlawd neu ffoaduriaid, gallwn ddweud nid yn unig bod Duw yn dymuno gweld cyfiawnder yn teyrnasu, ond ei fod hefyd yn ymroi i roi’r nerth a’r dewrder i bobl i sicrhau newid. Ar hyd y canrifoedd, mae stori’r Nadolig wedi rhoi’r ysbrydoliaeth a’r anogaeth i filoedd i sefyll dros yr hyn sy’n iawn, ac i weithredu mewn cariad. Bydded hyn yn wir am bob un ohonom sy’n fodlon gwrando ar gân yr angylion.