Tua diwedd bywyd a gweinidogaeth Iesu ar y ddaear, cafwyd achlysur nodedig pan ddaeth i mewn i ddinas sanctaidd Jerwsalem. Cafodd ei gyfarch gan ei ddisgyblion ar ddiwrnod rydym ni’n ei alw’n Sul y Blodau, neu Sul y Palmwydd gan i’r bobl ei groesawu â changhennau palmwydd. Wrth i Iesu farchogaeth i’r ddinas, dywedodd: “O Jerwsalem, Jerwsalem, Petaet ti, hyd yn oed heddiw, ond wedi deall beth fyddai’n dod â heddwch parhaol i ti!”
Mae’r rhain yn eiriau dwys, yn enwedig gan fod pobl wedi brwydro dros Jerwsalem byth ers hynny, gwaetha’r modd. Ac wrth i ni nesáu at y Pasg, dylai’r Palestiniaid a’r Israeliaid fod yn ein meddyliau a’n gweddïau wrth iddynt frwydro, unwaith eto, am reolaeth dros y wlad a fu’n destun dau addewid.
“Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd.” A phan fydd Iesu’n sôn am heddwch, mae’n golygu mwy nag absenoldeb rhyfel. Wrth sôn am heddwch, mae’n Iesu’n golygu llonyddwch yn ein calonnau; ymdeimlad a ddaw oddi wrth Dduw y bydd popeth yn dda.
Wrth gyfarch ei ddisgyblion ar ôl digwyddiadau poenus Dydd Gwener y Groglith, y peth cyntaf a ddywedodd Iesu wrthynt oedd “Tangnefedd i chwi”. Oherwydd, i Gristnogion, mae atgyfodiad Iesu’n arwydd o ymrwymiad Duw i ni ac i’r byd; ymrwymiad i fod ar waith gyda ni; addewid na fydd gobaith yn marw ac na all ffydd ddod i ben. Mae bob amser yn bosibl cael bywyd helaethach gyda Duw. A dyna neges sy’n cynnig heddwch. Mae’n neges a all roi hyder a gobaith inni. Mae’n neges sydd, yn y pen draw, yn troi’r byd wyneb i waered.
Neges Basg o’r Esgob Gregory, Esgob Llanelwy (Mae’r ffilm yn Saesneg yn unig).