Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Datganiadau Blynyddol Ardaloedd Cenhadaeth ar gyfer 2020

Dyma’r datganiad blynyddol yr Esgobaeth y mae angen i bob Ardal Genhadaeth ei gwblhau a’i ddychwelyd. Rydym wedi mireinio’r dogfennau eleni ar ôl derbyn eich adborth ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn eich helpu ar adeg brysur fel hon o’r flwyddyn. A fyddech cystal â phenodi rhywun o’r Ardal Genhadaeth i oruchwylio cwblhau’r ddogfen hon.

Gallwch ei ddychwelyd trwy e-bost neu drwy’r post. Byddai’n well gennym dderbyn yr wybodaeth yn electronig os yn bosibl, gan fod hynny’n arbed costau a phapur. Dylech anfon eich datganiadau trwy e-bost at stasaphoffice@cinw.org.uk. Cofiwch wneud yn siŵr bod eich datganiad yn gyflawn ac y bydd yn cael ei dderbyn gan Swyddfa’r Esgobaeth erbyn 31 Mai 2020.

Bydd y data personol a dderbynnir yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol ac yn cael ei rannu gydag aelodau eraill o’r Eglwys yng Nghymru yn unig a hynny er mwyn cynnal gwasanaeth i aelodau eraill neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Eglwys yng Nghymru. Dim ond gyda’ch caniatâd penodol chi y byddwn yn rhannu’ch data gyda thrydydd partïon y tu allan i’r Eglwys yng Nghymru.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd pob deilydd swydd mewn  Ardal Genhadaeth yn deall, er mwyn i ni weithredu’n effeithlon ac yn effeithiol, bod yn rhaid i ni allu cysylltu â phobl ac efallai y bydd angen rhannu gwybodaeth gydag aelodau eraill o’r eglwysi lleol, yr Ardal Genhadaeth, Swyddfa’r Esgobaeth neu’r Corff Cynrychioliadol.

Fel rhan o’n hymrwymiad i warchod data personol ac i sicrhau cydymffurfiad llawn gyda deddfwriaeth y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, ni fyddwn o hyn ymlaen yn argraffu Blwyddlyfr Esgobaethol ond yn symud i baratoi blwyddlyfr ar lein ar gyfer 2020.  Bydd hynny’n ein galluogi ni i reoli mynediad at ddata’n fwy gofalus ac i ddiweddaru gwybodaeth gynted ag y cawn ni wybod am unrhyw newidiadau. Bydd  rhagor o fanylion ynghylch y blwyddlyfr ar lein ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.


CYMORTH gyda'R DATGANIADAU BLYNYDDOL

CYSYLLTWCH Â NI

Os ydych yn dymuno cymorth cysylltwch y Swyddfa’r Esgobaeth:

01745 582245 / stasaphoffice@cinw.org.uk