Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 14

Y Seren

Mae bron iawn pob llun o stabl y Nadolig yn cynnwys seren. Fodd bynnag, roedd y seren a’r doethion a fu’n ymweld ag Iesu, yn perthyn mewn gwirionedd i ŵyl wahanol yr Ystwyll, sydd fel arfer, yn cael ei dathlu ar 6 Ionawr. Ond mae ‘Dilyn seren’ yn gallu dod yn hanes profiadau bywyd i’r rhan fwyaf ohonom. Gallwn deithio trwy bywyd mewn gobaith tuag at y nodau sy’n ein hysbrydoli a’n cynnal. Efallai bod teithio mewn gobaith bron iawn yn bwysicach na chyrraedd. Mae Cristnogion yn credu y bydd Duw yng Nghrist, fel seren, yn ein pwyntio i’r cyfeiriad cywir. Ond beth sy’n ein cyfeirio ni yn ein bywydau ni ein hunain?