Mae Esgobaeth Llanelwy yn cynnwys 20 o Ardaloedd Cenhadaeth, pob un â nodweddion arbennig oherwydd eu lleoliad daearyddol, eu cyfansoddiad demograffig a’u treftadaeth ddiwylliannol. Mae’r nodweddion unigryw hyn wedi’u mesur a’u dwyn ynghyd gan ddefnyddio data’r Cyfrifiad a ffigurau presenoldeb yr Eglwys yng Nghymru i amlygu natur unigryw pob Ardal Genhadaeth.
Trwy glicio ar Ardal Genhadaeth ar y map isod, gallwch gael mynediad at ystod o wybodaeth a fydd yn eich helpu i ddeall mwy am y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn credu ym mhob Ardal Genhadaeth. Os ydych chi’n aelod o Dîm Gweinidogaeth a Rennir Ardal Genhadaeth neu Gynhadledd neu’n arweinydd eglwys, bydd y wybodaeth yn eich helpu i gynllunio gwasanaethau, digwyddiadau, gweithgareddau, cefnogaeth ac ymgysylltiad a fydd yn diwallu anghenion eich cymuned leol yn well.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adnoddau mapio hyn, cysylltwch â’ch archddiacon neu Swyddfa’r Esgobaeth: