Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Y GRŴP YSBRYDOLRWYDD ESGOBAETHOL

‘Nid rhywbeth moethus yw’r Grŵp Ysbrydolrwydd Esgobaethol Llanelwy, rhywbeth ychwanegol i bobl sy’n digwydd bod â diddordeb yn ‘Y Math Hynna o Beth’ … mae yn rhan o helpu pobl i fod yn Gorff Crist a dim arall; helpu’r Eglwys i fod yn sylfaenol beth yw hi, byw o’i chanol …’

Rowan Williams yn siarad ar weddi, Cadeirlan Llanelwy, 7 Tachwedd 2022

Grŵp bychan ydym yn dod o amrywiol draddodiadau ysbrydol a gwahanol enwadau. Mae gan bob un ohonom angerdd at weddi ac i helpu pobl i ddyfnhau eu perthynas gyda Duw, boed ble bynnag y maent ar eu siwrne ar hyn o bryd. Rydym yn trefnu a chefnogi ystod o ddigwyddiadau gweddi ac ysbrydolrwydd ar draws yr Esgobaeth. Yn ogystal rydym yn cynhyrchu adnoddau gweddïo ac rydym yn cynnal y tudalennau yma. Ein cynullwr yw’r Cyfarwyddwr Ysbrydolrwydd Esgobaethol, Y Parch Ddr Sally Harper.

Byddwn yn aml yn gwahodd gwesteion i’n cyfarfodydd er mwyn ein helpu i ymateb i amrywiol anghenion, ac rydym bob amser yn chwilio am syniadau newydd. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Gallwch gysylltu â ni ar stasaphspirituality@cinw.org.uk.