Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

ENCILION, DIWRNODAU TAWEL A GRWPIAU GWEDDI

Ydych chi yn chwilio am le ac am dawelwch i fyfyrio ar fywyd ac i ddyfnhau eich perthynas gyda Duw? Ydych chi yn chwilio am ffyrdd i weddïo gyda phobl eraill? Gall mynd ar Ddiwrnod Tawel neu Encil neu ymuno â Grŵp Gweddi yn wir eich helpu. Dyma rai syniadau.

Sant Beuno

Mae Sant Beuno yn ganolfan encil eciwmenaidd sy’n agos i Lanelwy, sy’n canolbwyntio ar ysbrydolrwydd Ignatian ac a ddefnyddir gan lawer o bobl yn ein hesgobaeth. Mae ganddi ystod o lefydd gweddïo a gerddi prydferth ynghyd ac awyrgylch groesawgar ac agored. Mae’n cynnig sawl ystod o encilion dan arweiniad, cyrsiau byr ac hyfforddiant.

Gwaith Ymestyn allan Sant Beuno (St Beuno’s Outreach)

Mae gwaith Ymestyn Allan Sant Beuno yng Ngogledd Cymru yn rhedeg rhyw 20 grŵp ‘Prego’ eciwmenaidd, rhai ar lein a rhai mewn person. Maent yn cymryd dull adlewyrchol Ignatian, yn canolbwyntio ar ddarlleniadau’r Sul a deunydd adlewyrchol eraill, gydag amser tawel am weddi a rhannu. Mae’r grwpiau yn groesawgar iawn gyda’r grwpiau fel arfer yn cyfarfod pob pythefnos. Mae’r Ymestyn Allan hefyd yn cynnig Wythnos o Weddi wedi’i arwain un wrth un am ddim. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â stbeunosoutreach@beunos.com.

Pennant Melangell

Mae’r eglwys bererindod hon sydd a chysegrfan a’r ganolfan gyferbyn ynghanol Dyffryn Tanat yn un o’r trysorau cuddiedig o fewn ein hesgobaeth. Mae’n cynnig lle i fyfyrio, i wrando a gofal bugeiliol gyda phwyslais ar wella ac ysbrydolrwydd. Mae’n cynnig adnoddau ar gyfer diwrnodau hyfforddi, encil a diwrnodau tawel

Tŷ Encil Caer

Canolfan wedi’i lleoli yn Sgwâr Abbey drws nesaf i Gadeirlan Caer. Mae yn cynnig croes doriad eang o ddigwyddiadau ynghanol bywyd dydd i ddydd. Ymunwch am ddiwrnod encil, i fyfyrio neu ddilyn taith fyfyrdod dan arweiniad.

Canolfan Ysbrydoledd Loreto, Llandudno

Encilion a diwrnodau tawel mewn lleoliad hyfryd wrth ymyl y Great Orme. Gallwch hefyd ymuno a ‘Diwrnod Loreto’: mae un Sadwrn y mis wedi’i neulltio ar gyfer unrhywun a hoffai ddod am ychydig oriau o amser gweddi tawel a myfyrdod dan arweiniad.

Noddfa, Penmaenmawr

Mae’r gair ‘Noddfa’ yn hunan esboniadwy – lle o groeso a heddwch – mewn hen dŷ yn agos at y môr a’r mynydd. Gallwch aros yma neu ymuno a diwrnod encil neu gwrs, gan gynnwys diwrnodau ‘Gofalu am y Gofalwyr’.

Llys Beechwood, Conwy

Plasdy cyfforddus o fewn cerdded i Gonwy sy’n cynnwys croeso cynnes (gan gynnwys i deuluoedd), cyfeillgarwch Cristnogol ac awyrgylch gartrefol. Mae ffydd ac addoliad yn cymryd rhan flaenllaw gydag amser penodol i weddi, moli a myfyrio.

Ynys Iona

Mae Iona, ynys fechan oddi ar arfordir de-orllewin Mull yn yr Hebrides Mewnol, yn lle hardd i dreulio amser yn cerdded, yn myfyrio ac yn gweddïo. Fel arfer mae Esgobaeth Llanelwy yn arwain pererindod i Iona bob haf, neu gallwch fynd fel teithiwr unigol, neu fel gwestai i Gymuned Iona.

Y Gymdeithas Encil (The Retreat Assocation)

Mae’r Gymdeithas Encil yn sefydliad cenedlaethol eciwmenaidd Cristnogol sy’n rhestru pob math o encil ar draws y DU. Maent yn cyhoeddi Llawlyfr Encilion yn flynyddol.

Encilion Cristnogol Ar-Lein

Gall dilyn encil neu fyfyrdod wedi’i arwain yn eich cartref gydag arweinydd hyfforddedig fod o help mawr. Mae ‘Pray as you Go’ a Sant Beuno yn cynnig gwahanol fathau o encilion drwy’r flwyddyn. Gallwch ddarllen myfyrdod ar sut i ddilyn encil ar-lein yma.

Cyfarfodydd Julian

Mae cyfarfodydd Julian yn croesawu’r rhai hynny sy’n chwilio am le i weddi dawel, ac i fagu ac arfer y dull myfyrio a gweddïo myfyrgar o fewn y traddodiad Cristnogol. Mae yna grwpiau yng Nghyffordd Llandudno, Llandudno, Abergele, Penrhyndeudraeth, Sir Fôn a Chaer.

Centering Prayer (Canoli Gweddi)

Mae Canoli Gweddi yn ddull o weddi fyfyriol sydd yn mynd yn ôl hyd ddyddiau cynharaf Cristnogaeth. Defnyddia eiriau neu ymadrodd tebyg i ‘Tyrd Arglwydd’ fel dull o angora eich hunan pan fydd eich meddyliau yn dechrau crwydro. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y traddodiad hwn yma a thrwy’r WCCM Meditation Centre yn Llundain. Yn ogystal mae grŵp ar-lein yn cael ei redeg o Lerpwl.

Mudiad yr Ardd Dawel (The Quiet Garden Movement)

Mae Mudiad yr Ardd Dawel yn creu cyfleoedd i brofi tawelwch, llonyddwch ac ymarferion myfyriol y tua llan. Mae’n cefnogi lle i weddi, myfyrio a llonyddwch mewn amrywiol leoliadau, gan gynnwys ysgolion ac ysbytai. Mae Gerddi Tawel Cymru wedi’u rhestru yma.