Mae’r cyngor ‘Gweddïwch fel gallwch, nid fel na allwch’ yn hen gyngor. Mae ffyrdd amrywiol o weddïo yn addas i amrywiol bobl. Gall gweddïo fod yn syml ac fe ellid gwneud yn unrhyw le ar unrhyw bryd – hyd yn oed dros baned! Mae yn help os gallwn ymlonyddu, ymdawelu a distewi wrth i ni gamu mewn i weddi.
Yr unig beth yw gweddi yw bod gyda Duw, gyda geiriau neu heb eiriau. Yma gallwn rannu ein llawenydd, dyheadau a thristwch dyfnaf a hynny gyda llwyr onestrwydd. Gall ein gweddi fod yn ychydig eiriau o ddiolch, neu ddod a’n holl anghenion a’n pryderon at Dduw. Fe all ac y mae hyn yn gallu ein newid ni a’r byd.
Mae bod eisiau gweddïo’r lle i ddechrau. Dyma rhai adnoddau efallai a fydd o help i chi weddïo.

Mae’r ap am ddim yma yn cynnig cyfarfyddiad sain gyda Duw, drwy gyfuno cerddoriaeth, ysgrythur a chwestiynau ar gyfer myfyrdod. Gallwch ddod o hyd i fyfyrdodau hirach yma.
Cyfle ysgafn i wneud ‘lle cysegredig’ o fewn eich diwrnod gyda thestun o’r Ysgrythur a rhywbeth i feddwl a gweddïo amdano yn wythnosol. Mae yna lyfr i gyd fynd.
Yr Examen
Mae’r Examen yn ffordd syml iawn o adolygu digwyddiadau’r dydd er mwyn bod yn ymwybodol o sut mae Duw yn gweithio yn eich bywyd. Gallwch ddewis gwahanol fath o Examen i’ch siwtio chi, eich hwyliau, anghenion a sefyllfa.
Mae Gweddi 24-7 yn fudiad rhyngwladol a chyd enwadol: mae yn gyfarfod gweddi sydd wedi parhau yn ddi baid bob munud o’r ganrif hon. Mae’n cynnig llawer o syniadau i’ch helpu i ddyfnhau eich bywyd gweddïo dyddiol, gyda syniadau creadigol i’ch helpu i gysylltu gyda Duw.
Ap dyddiol am ddim (ysgrifenedig a chlywedol) sydd yn eich helpu i weddïo, sydd wedi’i ysbrydoli gan ddull hynafol Lecto Divina (‘darllen sanctaidd’).
Mae Boreol Weddi yn dilyn y rhythm P:ause to be still (Llonyddu i fod yn llonydd); R:ejoice with a Psalm (Llawenhau gyda Salm); R:eflect on Scripture (Ystyried yr Ysgrythurau); A:sk for God’s help (Holi am help Duw); Y:ield to His will in your life (Ildio i’w fwriad yn eich bywyd).
‘Try Praying’ (Rhoi cynnig ar weddi)
Wedi‘i anelu at y rhai hynny sydd ‘ddim yn grefyddol a dydy eglwys ddim i fi’. Siwrne 7 diwrnod treiddgar.
Mae apiau gan Eglwys Lloegr i’ch helpu i ddilyn y gweddïau gosod (Boreol, Hwyrol a Noswyl) yn ddyddiol, gydag opsiwn clywedol. Gallwch ddod o hyd i fyfyrdodau cyflenwol ar gyfer Boreol Weddi a’r Salmau.
‘Alone Together’ (Yn unig gyda’i gilydd)
Safwe a grëwyd mewn ymateb i’r pandemic coronafeirws ac sydd nawr yn bodoli fel adnodd archif i unrhywun sydd yn wynebu cyfnod o ynysu yn eu bywyd. Mae yna ffilmiau byr ar ‘Lunio’r Diwrnod’ a myfyrdodau ar fyw yn ynysig, gan gynnwys cyfraniadau gan Chwaer Gemma Simmonds CJ, canon Cadeirlan Llanelwy.