
Mae’n bleser gan Esgobaeth Llanelwy ac Esgobaeth Bangor gyhoeddi penodiad Justine Baldwin yn Gyfarwyddwr Addysg Esgobaethol newydd ar gyfer Gogledd Cymru, gyda chyfrifoldeb dros 66 o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.
Penodiad Justine yw’r un cyntaf a wnaed ar y cyd gan y ddwy esgobaeth a bydd yn dwyn ynghyd y buddsoddiad y mae’r ddwy yn ei wneud yn eu hysgolion, gan gyfuno adnoddau, arbenigedd a phwyslais arbennig i greu tîm creadigol, unedig sy’n gweithio ar draws gogledd Cymru.
Ar hyn o bryd mae Justine yn bennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng ym Mhowys. Mae hi wedi treulio ei gyrfa gyfan mewn addysg gynradd; gan ddechrau fel athro dosbarth ac yna fel uwch arweinydd a phrifathro.
Dywedir Justine: “Rwy’n teimlo’n hynod falch o fod yn ymgymryd â’r swydd fel Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol Gogledd Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at groesawu her newydd a chyffrous ar draws Esgobaeth Llanelwy ac Esgobaeth Bangor. Mae fy rolau blaenorol wedi rhoi angerdd i mi am feithrin anghenion emosiynol a dysgu plant mewn cyd-destun Cristnogol cynhwysol. Rwy’n falch iawn o ddechrau taith newydd ar yr adeg hon o newid, her a chyfleoedd ar gyfer addysg yng Nghymru.”
Dywedir yr Esgob Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol Bangor a’r esgob arweiniol dros addysg yn yr Eglwys yng Nghymru: “Rydym yn croesawu Justine yn gynnes i’r rôl newydd gyffrous a heriol hon, sy’n gweithio ar draws dwy esgobaeth gogledd Cymru. Mae ein hysgolion yn ceisio hyrwyddo’r ansawdd uchaf ym mhopeth a wnânt, gan fyw a gweithio yng ngwerthoedd Iesu Grist bob dydd, fel y gall pawb ffynnu a chyflawni eu potensial. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r gwaith pwysig hwn unwaith y bydd Justine yn ymuno â’r tîm yn gynnar yn 2023.”
Mae ysgolion eglwys yn gynhwysol eu natur, gan croesawu plant o deuluoedd o bob ffydd a dim ffydd, tra’n cydnabod bod ffydd yn rhywbeth sy’n siapio bywydau pobl. Mae ysgolion eglwys wedi ymrwymo i ddathlu treftadaeth gyfoethog ffydd, iaith a diwylliant Cymru ac yn darparu pwynt naturiol o ffocws cymunedol, gyda chefnogaeth rhwydwaith o glerigwyr a chynulleidfaoedd ledled Cymru.