Clergy Log In Church in Wales Church near me

Etholwyd Archesgob Newydd Cymru

Mae Archesgob newydd Cymru wedi cael ei ethol heddiw (30 Gorffennaf 2025).

Dewiswyd Cherry Vann sydd wedi gwasanaethu fel Esgob Mynwy am y pum mlynedd diwethaf, fel pymthegfed Archesgob Cymru.

Mae hi’n olynu’r Esgob Andrew John a ymddeolodd ym mis Gorffennaf ar ôl tair blynedd a hanner fel arweinydd yr Eglwys yng Nghymru.

Etholwyd Archesgob Cherry ar ôl sicrhau y mwyafrif angenrheidiol, sef dwy ran o dair o’r bleidlais gan aelodau’r Coleg Etholiadol ar ail ddiwrnod ei gyfarfod yn Eglwys a Gwesty St Pierre yng Nghas-gwent. Cadarnhawyd yr etholiad gan yr esgobion esgobaethol eraill ac fe gafodd y canlyniad ei gyhoeddi gan Esgob Gregory Cameron, Esgob Llanelwy. Bydd Archesgob Cherry yn cael ei gorseddu yn Gadeirlan Casnewydd maes o law. Fel Archesgob bydd hi yn parhau i wasanaethu fel Esgob Mynwy.

Yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr, cysegrwyd yr Archesgob Cherry Vann yn Esgob Mynwy yn 2020. Ordeiniwyd Cherry yn ddiacon ym 1989. Roedd hi wedyn ymhlith y menywod cyntaf i gael eu hordeinio’n clerigwyr yn Eglwys Loegr ym 1994. Yna gwasanaethodd fel Archddiacon Rochdale, yn Esgobaeth Manceinion, am 11 mlynedd.

Dywedodd hi: “Y peth cyntaf y mae’n rhaid imi ei wneud yw i sicrhau bod y materion sydd wedi cael eu codi yn y chwe mis diwethaf yn cael eu trin mewn ffordd addas, ac fy mod yn gweithio i ddod â iachad a chymod ac i adeiladu lefel dda o ymddiriedaeth yn yr Eglwys ac yn y cymunedau y mae’r Eglwys yn eu gwasanaethu.”

Y Parch. Ian Black, Deon Casnewydd, croesawodd y newyddion ar ran Esgobaeth Mynwy. Dywedodd he: “+Cherry yw’r person cywir ar gyfer y foment hon ym mywyd Eglwys Cymru. Mae ganddi’r sgiliau a’r weledigaeth sydd eu hangen arnom i adfer ymddiriedaeth ar ôl rhai methiannau cyhoeddus iawn. Mae hi wedi dod â sefydlogrwydd i Esgobaeth Mynwy, gan reoli’r newid i ardalau gweinidogaeth gydag eglurder a phwrpas, gan ddangos gofal dwfn dros yr clerigwyr a’r bobl. Bydd hyn yn gynsail cryf wrth iddi arwain y Dalaith yn ystod y blynyddoedd nesaf.

“Mae ganddi ffydd ddofn, sydd hefyd yn agored i’r rhai sy’n o farn wahanol, ac mae hyn wedi gwneud argraff enfawr ar y bobl hynny. Edrychaf ymlaen at ei chefnogi hi fel Deon ei Chadeirlan.

“Un o’n dyletswyddau a’n pleserau yn y Gadeirlan yw gweddïo dros yr esgob bob dydd a byddwn wrth ein bodd wrth barhau i wneud hynny.”