Clergy Log In Church in Wales Church near me

An Easter Book of Days

Meeting the Characters of the Cross and Resurrection

Detholion o An Easter Book of Days

gan Esgoby Gregory, published by Canterbury Press

CROES Y GWAREDWR

Mae’n rhaid i Gristnogaeth wynebu’r ffaith bod un farwolaeth wrth wraidd popeth yr oedd am ei ddweud. Credai disgyblion Iesu mai ef oedd y Meseia, un etholedig Duw, Gwaredwr y Byd ac, er hynny, marwolaeth oedd penllanw ei fywyd. Mae marwolaeth Iesu mor bwysig i awduron yr Efengylau fel ei fod yn sugno’r rhan fwyaf o’u hegni.

Pan drodd yr ymerawdwr Cystennin at Gristnogaeth yn y 4edd ganrif, aeth ei fam Helena ar bererindod i’r Wlad Sanctaidd ac roedd holl adnoddau’r ymerodraeth ar gael iddi.  Un o’i phrosiectau cynnar oedd chwilio am y Wir Groes.  Daeth hi i’r casgliad fod pobl wedi mynd ati’n fwriadol i guddio safle’r croeshoeliad trwy adeiladu teml baganaidd drosto.  Heddiw, ni wyddom yn iawn ble’r oedd y Wir Groes ond mae darnau o bren yr honnir eu bod wedi dod o’r groes wedi’u gwarchod dros y byd i gyd.

Mae’r Pasg yn gyfnod llawn paradocsau.  Rydym yn dathlu bywyd newydd, ond dim ond trwy wynebu marwolaeth.  Rydym yn canmol cariad Duw ond cafodd hwnnw ei ddatgelu trwy ddigwyddiadau erchyll o greulon a gwaedlyd.  Cawn ein harwain i le llawn artaith a chywilydd, dim ond i ddarganfod mai yno y cafwyd buddugoliaeth.

 

Jwdas Iscariot

Mae’r enw Jwdas yn cael ei ddefnyddio i olygu bradwr.  Caiff Jwdas ei bortreadu mewn sawl man yn yr efengylau fel rhywun nad yw’n cydymdeimlo â gweithredoedd y disgyblion eraill ac mae’n ymddangos ei fod yn pellhau fwyfwy oddi wrth Iesu.  Wrth gwrs, mae awduron yr Efengylau i gyd yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd i Iesu!  Tra oedd Iesu ym Methania, aeth Jwdas at awdurdodau’r Deml a gofyn am dâl i fradychu Iesu – y 30 darn arian ofnadwy.  Dyna pam y mae “Dydd Mercher y Brad” yn un enw ar ddydd Mercher Wythnos y Pasg. Ar y dydd Iau, mae Jwdas yn dangos pwy yw Iesu trwy ei gyfarch â chusan.

O ystyried y rhan hynod a roddwyd i Jwdas yn yr Efengylau, nid yw’n syndod fod traddodiad yn tueddu i’w bortreadu fel rhywun i’w gasáu. Mewn darluniau, dangosir ef yn aml wedi’i wisgo mewn melyn, lliw llwfrdra a lliw a ddaeth yn gysylltiedig â phobl o’r ffydd Iddewig mewn gwrth-Semitiaeth Gristnogol.

Sut, felly, y dylem ni ystyried yr un a fradychodd Iesu?  A ddylem ni ei gondemnio am ei frad ynteu gofio bod ganddo gymhellion, ac efallai hyd yn oed gydnabod bod y rhan a chwaraeodd yn hanes yr iachawdwriaeth yn gwneud iawn am yr hyn a wnaeth?

Nid bradychu Iesu i’r awdurdodau oedd gwir bechod Jwdas ond y ffaith iddo anobeithio gymaint fel y credai na allai gael maddeuant nac achubiaeth.

Barabbas

Mae pob un o’r pedair Efengyl yn tystio i draddodiad bod un carcharor yn cael ei ryddhau heb gosb fel arwydd o barch at ŵyl Iddewig y Bara Croyw (y Pasg).  Mae Peilat yn gwahodd y dyrfa i ddewis rhwng Iesu a Barabbas.  Gallwn ddeall yma fod y dyrfa’n cynrychioli’r ddynoliaeth gyfan yn hytrach nag un rhan ohoni.  Wrth wneud hynny, gwelwn yn glir y gwahaniaeth rhwng y Meseia di-fai, yr ydym yn barod i’w groeshoelio, a’r terfysgwr oedd yn euog o lofruddiaeth ac yr ydym yn awyddus i’w ryddhau am resymau gwleidyddol.

Efallai mai pwynt y stori yw’r ffaith fod Iesu’n marw yn lle Barabbas.  Mae Barabbas yn cael ei ryddid gan fod Iesu’n marw yn ei le.  Wrth edrych arni fel hyn, mae Barabbas yn cynrychioli pob un ohonom, ac mae Iesu wedi marw yn ein lle.

Cafodd y syniad hwn ei fynegi gan Samuel Crossman, offeiriad Anglicanaidd ac emynydd o’r 17eg ganrif yn yr emyn:  My Song is Love unknown

Simon o Cyrene

Mae Mathew, Marc a Luc, ond nid Ioan, yn nodi, yn eithaf didaro, bod y milwyr Rhufeinig wedi gorfodi Simon, dyn o Cyrene, i gario croes Iesu, ar y ffordd i’w groeshoelio.  Mae’r ffaith bod y tri efengylwr yn enwi Simon yn awgrymu efallai ei fod yn ffigwr adnabyddus yn yr Eglwys fore ac mae’n dangos pa mor glòs oedd cymuned y Cristnogion cynnar.

Er mai cael ei orfodi i gario croes Iesu wnaeth Simon, daeth i gael ei weld yn fuan iawn fel cydymaith a ddaeth i helpu Iesu yn ei ddioddefaint, ac felly’n batrwm o rywun sy’n rhoi help llaw i bobl mewn angen.  Mae Simon yn cydgerdded â Iesu pan oedd mewn angen mawr ac yn helpu i ddal pwysau’r groes.  Weithiau, pan fyddwn ni mewn angen mawr, bydd Duw yn anfon rhyw Simon i gydgerdded â ni, ac i helpu i gario ein beichiau.

Dyma pam y mae Simon yn berthnasol i ni i gyd.  Does neb ohonom yn cael ei ryddhau o feichiau bywyd dim ond oherwydd ein bod yn bobl ffydd.  Mae cyfeillgarwch a chwmnïaeth yn gallu rhoi nerth a chysur enfawr i ni ar lwybr bywyd, ac mae esiampl Simon yn rhoi ysbrydoliaeth a gobaith i ni.

Feronica

Yn ei efengyl, mae Luc yn sôn am Iesu’n cyfarfod â nifer o ferched ar ei ffordd i Galfaria.  Mae Luc yn dweud eu bod yn wylo dros Iesu ac mae’n bosibl mai dyma pryd y dywedir i ryw ffurf ar yr hyn a ddisgrifir yn y traddodiad am wraig o’r enw Feronica ddigwydd – y weithred dyner o sychu wyneb Iesu yng nghanol hwrlibwrl’r dyrfa.

Mae chwedl Feronica – sy’n cael ei chofio yn chweched gorsaf y groes – yn mynd ymhellach o lawer.  Ar ôl i Feronica ddangos trugaredd wrth Iesu trwy geisio sychu ei dalcen â’i fêl, caiff ei gwobrwyo â gwyrth.  Gwelir ôl wyneb Crist ar y fêl.

Mae’n anodd gwybod sut y dechreuodd y chwedl hon am Feronica ac yn anodd credu bod iddi unrhyw sylfaen hanesyddol.  Fodd bynnag, mae rhai ymchwilwyr yn awgrymu bod crair enwog Amdo Turin, os caiff ei blygu i ddangos y wyneb yn unig, yn cyfateb i’r disgrifiadau o’r fêl.

Er na honnir erbyn hyn bod unrhyw ddelwedd – ac eithrio Amdo Turin neu Fêl Feronica o bosib – yn cyfleu wyneb Iesu yn union, mae lluniau o Iesu’n adlewyrchu ei ymgnawdoliad ar ffurf dyn ac yn tystio’n dawel i’r gwirionedd bod Crist, i Gristnogion, yn wir Dduw ac yn wir ddyn.

 

Mair, Mam yr Arglwydd

Mae Mair yn ymddangos sawl gwaith yn yr hanesion am fywyd Iesu, ac yn aml mae’n chwarae rhan bwysig.  Mae’n gymeriad canolog yn stori’r geni ond hefyd ar adegau allweddol ym mywyd Iesu – pan aiff ar goll yn blentyn a dod i’r golwg yn y Deml, yn y wyrth gyntaf yng Nghana Galilea ac, yn ôl Ioan, wrth droed y groes.  Mae’n anodd i ni ddechrau amgyffred galar Mair yn yr olygfa honno.  Bu Cristnogion yn myfyrio ar hyn ers cenedlaethau ac ysbrydolodd rai o ddarnau cerddoriaeth a gweithiau celf gorau’r byd.

Mae lle Mair yn nrama’r Dioddefaint yn ein hatgoffa o elfennau real a dynol iawn yn stori’r iachawdwriaeth, a gall dyfnder ei chariad amlwg hi ein helpu i ganfod faint y mae Duw yn ein caru ni i gyd.  Mae Mair yn dangos bod cariad dynol yn cael ei dynnu i mewn i’r dwyfol, a bod cysylltiad annatod rhwng cariad dynol a chariad dwyfol.  Wrth inni fyfyrio ar gariad Mair, mam yr Arglwydd, diolchwn am gariad, a gweddïwn y bydd i’w weld yn amlwg yn ein bywydau ni.

Gestas a Dismas

Nid Crist oedd yr unig un i gael ei groeshoelio ar ddydd Gwener y Groglith. Mae’r Efengylau’n nodi nifer o fanylion am ddau wrthryfelwr a groeshoeliwyd ar y naill ochr a’r llall i Iesu. Yn ôl Luc, dechreuodd un o’r troseddwyr regi Iesu, gan ddweud y dylai achub y tri ohonyn nhw os mai ef oedd y Meseia a addawyd. Ond nodir bod y troseddwr arall wedi’i geryddu, gan ddweud na wnaeth Crist ddim o’i le, yn wahanol iddyn nhw eu dau. Yna mae’r ail droseddwr yn troi at Iesu gan wneud cyffes o’i ffydd: “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.” Mewn ymateb, mae’r Arglwydd yn gwneud addewid “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw”.

Yn y canrifoedd wedi hynny, bu llawer yn ceisio meddwl tybed pwy oedd y ddau droseddwr. Mae’r efengylau apocryffaidd yn cynnig rhai o’r manylion hynny a, maes o law, cyflwynir stori bywyd y ddau. Dau frawd o’r enw Gestas a Dismas oeddent, yn byw trwy droseddu. Un o’u troseddau, meddir, oedd ceisio lladrata oddi ar Mair a Joseff wrth iddyn nhw ffoi i’r Aifft gyda’r baban Iesu flynyddoedd ynghynt.

Y peth trawiadol yw’r cyferbyniad rhwng y ddau droseddwr. Mae un, yn llawn dicter a phoen, yn dal yn flin nad yw pethau’n gweithio o’i blaid, ac yn mynd ati i geryddu Iesu; mae’r llall yn edifeiriol, ac yn gofyn am drugaredd Iesu.

Gweddïwn ar Dduw i roi gwir ysbryd edifeirwch inni.

Joseff o Arimathea

Mae pob un o’r pedair Efengyl yn sôn am Joseff o Arimathea, y dyn sy’n ddigon dewr (ac yn ddigon dylanwadol) i ofyn i Peilat am gorff Iesu. Ar ôl i gorff Iesu gael ei dynnu oddi ar y groes, mae Joseff yn ei lapio mewn amdo o liain ac yn ei osod mewn bedd newydd yn y graig. Mae hynny’n awgrymu bod gan Iesu a’i ddisgyblion gysylltiadau â phobl uchel eu statws. Dim ond pobl gyfoethog gâi eu claddu mewn bedd yn y graig ac, yn aml, roedd hyd yn oed uchelwyr yn rhannu bedd.

Er mai’r hanes amdano’n trefnu i Iesu gael ei roi yn y bedd yw’r unig gyfeiriad at Joseff o Arimathea yn yr Efengylau, yn ôl traddodiad roedd ganddo gysylltiad agos â Iesu. Tybed a oedd yn berthynas i Iesu – ewythr i Mair efallai ac felly’n hen ewythr i Iesu? Tybed a oedd yn fasnachwr cyfoethog a oedd yn mynd â’i or-nai ifanc ar deithiau masnachu? Ai dyma yw sail y chwedl bod Iesu wedi ymweld â Phrydain? Ar ôl i Iesu farw, dywedir i Joseff ddychwelyd i Brydain i efengylu, gan sefydlu’r eglwys gyntaf yn yr Ynys Wydrin (Glastonbury).

Beth bynnag yw ein barn am y chwedlau, efallai ei bod yn werth cofio’r awgrym mai cylch clòs o ychydig deuluoedd oedd yr Eglwys fore a bod eu perthynas deuluol â Iesu yr un mor bwysig iddynt â’u cred ynddo fel y Meseia. Roeddent yn byw mewn cymuned ac mae clymau cymunedol yn dal yn bwysig i’r ffydd Gristnogol ac i fyw fel disgyblion heddiw. Wrth ddod yn Gristnogion, rydym yn dod yn rhan o gymuned sy’n ymestyn yn ôl trwy’r oesoedd nes cyrraedd y teuluoedd cyntaf a roddodd eu ffydd yn Iesu.

Mair Magdalen

Mair Magdalen yw’r person cyntaf y cofnodir iddi gyfarfod â Iesu ar ôl iddo atgyfodi. Mae llawer o straeon am Mair a chaiff ei henwi 12 gwaith yn y pedair Efengyl. Mae’n debyg ei bod yn byw bywyd truenus cyn i Iesu ei hachub, ac mae Marc a Luc yn nodi bod Iesu wedi bwrw saith o gythreuliaid allan ohoni. Roedd hi’n amlwg yn teithio gyda Iesu ac mae’n ymddangos gyda Iesu trwy gydol stori’r Dioddefaint – roedd yn un o’r rhai oedd yn sefyll ger y groes pan gafodd Iesu ei ddienyddio.

Yn Efengyl Ioan, Mair yw’r cyntaf i ddod at y bedd ar fore’r Pasg, a hi sy’n gweld ei fod yn wag. Mae gwraig arall gyda hi, ac maen nhw’n credu’r newyddion am yr Atgyfodiad, yn hollol wahanol i’r disgyblion, a gaiff eu darlunio fel rhai ofnus ac amharod i gredu.

Ar ôl i Mair ddweud wrth y disgyblion, Pedr ac Ioan, fod y bedd yn wag, mae hi’n sefyll yn yr ardd yn wylo. Yno, daw wyneb yn wyneb â’r Arglwydd atgyfodedig, ond, yn ei thristwch, mae’n meddwl mai’r garddwr sydd yna. Dim ond wrth i Iesu ddweud ei henw, mae hi’n sylweddoli pwy ydyw. Mae’n ddiddorol nodi mai menywod yw’r tystion cyntaf i’r Atgyfodiad, a hynny mewn cyfnod pan oedd llai o bwys yn cael ei roi ar dystiolaeth menywod nag ar dystiolaeth dynion.