Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Datganiadau Blynyddol Eglwysi ar gyfer 2020

Dyma’r datganiad blynyddol yr Esgobaeth y dylai ysgrifennydd pob eglwys ei gwblhau a’i ddychwelyd i’r esgobaeth. Mae’n bwysig fod eich datganiad yn gywir gan y defnyddir yr wybodaeth i ddiweddaru bas data’r esgobaeth: dyma sut y byddwn yn cadw mewn cysylltiad â phob un ohonoch.

Gallwch ei ddychwelyd trwy e-bost neu drwy’r post. Cofiwch wneud yn siŵr bod eich datganiad yn gyflawn ac yn cael ei dderbyn gan Swyddfa’r Esgobaeth erbyn 31 Mai 2020.  Byddai’n well gennym dderbyn yr wybodaeth yn electronig os yn bosibl gan fod hynny’n arbed costau a phapur. Dylech anfon eich datganiadau trwy e-bost at stasaphoffice@cinw.org.uk.

Bydd y data personol a dderbynnir yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol ac yn cael ei rannu gydag aelodau eraill o’r Eglwys yng Nghymru yn unig a hynny er mwyn cynnal gwasanaeth i aelodau eraill neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Eglwys yng Nghymru. Dim ond gyda’ch caniatâd penodol chi y byddwn yn rhannu’ch data gyda thrydydd partïon y tu allan i’r Eglwys yng Nghymru.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd pob deilydd swydd yn deall, er mwyn i ni weithredu’n effeithlon ac yn effeithiol, bod yn rhaid i ni allu cysylltu â phobl ac efallai y bydd angen rhannu gwybodaeth gydag aelodau eraill o’r eglwysi lleol, yr Ardal Genhadaeth, Swyddfa’r Esgobaeth neu’r Corff Cynrychioliadol.

Fel rhan o’n hymrwymiad i warchod data personol ac i sicrhau cydymffurfiad llawn gyda deddfwriaeth y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, ni fyddwn o hyn ymlaen yn argraffu Blwyddlyfr Esgobaethol ond yn symud i baratoi blwyddlyfr ar lein ar gyfer 2020.  Bydd hynny’n ein galluogi ni i reoli mynediad at ddata’n fwy gofalus ac i ddiweddaru gwybodaeth gynted ag y cawn ni wybod am unrhyw newidiadau.


CYMORTH gyda'R DATGANIADAU BLYNYDDOL

CYSYLLTWCH Â NI

Os ydych yn dymuno cymorth cysylltwch y Swyddfa’r Esgobaeth:

01745 582245 / stasaphoffice@cinw.org.uk