Clergy Log In Church in Wales Church near me

Neges y Nadolig 2025

gan Esgob Gregory

Gwyliwch y neges isod (Saesneg yn unig).

Cefais fy atgoffa’n ddiweddar o stori a gafodd lawer o sylw ar y newyddion yn 2018. Ym mis Mehefin y flwyddyn honno, aeth tîm pêl-droed o fechgyn ifanc o Wlad Thai i grwydro ogofâu. Tra oeddent o dan y ddaear, cafodd y tîm a’u hyfforddwyr eu caethiwo mewn ogof gan fflachlif. Wrth i’r amser fynd heibio, diffoddodd eu lampau a chafodd y bechgyn eu gadael mewn tywyllwch dudew. Doedd dim y gallent ei wneud ond aros; nid oeddent hyd yn oed yn gwybod a oedd unrhyw un yn gwybod ble roeddent. Yna, yn sydyn, gwelsant olau. Roedd lampau llachar deifwyr o Brydain yn dod trwy’r dyfroedd. Daeth y golau â gobaith iddynt; roeddent yn gwybod bod rhywun yn chwilio amdanynt, a bod posibilrwydd y caent eu hachub.

Mewn adnod yn Efengyl Ioan mae’r apostol yn ysgrifennu, “Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.” Mae’r neges Gristnogol yn dweud wrthym fod Duw yn anfon goleuni atom, i ganol tywyllwch y byd lle mae rhyfeloedd ac anghyfiawnderau a newyn a phoen. Trwy eni plentyn ym Methlehem, daw goleuni Duw i’r byd. Mae gennym obaith gan fod Duw ar ein hochr ni.

A dyna’r gobaith Cristnogol sy’n dal i ysbrydoli pobl hyd yn oed 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae pobl yn canfod nerth arbennig yn y stori honno am Iesu. Gyda chymorth Duw, cawn y dewrder i gredu y gallwn ni wneud yr amhosibl a threchu’r tywyllwch yn ein byd ni. Neges y Nadolig yw’r neges orau erioed.

Gobeithio y bydd cofio am eni Iesu ym Methlehem yn dod â goleuni i chi beth bynnag yw’ch amgylchiadau; goleuni i weld bod Duw ar ein hochr ni ac y gallwn drechu holl dywyllwch ein byd gyda’i gymorth ef.

Ac, felly, dymunaf Nadolig Llawer a phob bendith i chi.