Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 8

Ioan Fedyddiwr

Mae Efengyl Luc yn dechrau gyda’r stori am enedigaeth perthynas agos i Iesu, Ioan Fedyddiwr. Ystyr Ioan mewn Cristnogaeth yw y ‘Rhagflaenydd’, yr un sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer y Meseia.

Mae gweinidogaeth Iesu’n cael ei chyflwyno yn yr Efengylau gyda phregethu Ioan Fedyddiwr. Mae pob un o’r Efengylau’n sôn amdano fel athro a phregethwr radical, yn sefyll yn nhraddodiad proffwydol yr Hen Destament: mae’n gwisgo croen camel, yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt ac yn byw ym mhellafion y diffeithwch.

Mewn chwedloniaeth, daeth Ioan, i Gristnogion, yn ffigwr sy’n pontio’r Hen Destament a’r Testament Newydd, fel yr un sy’n paratoi pobl Israel ar gyfer gweinidogaeth Iesu.

Weithiau, rydym angen rhywun arall sy’n gallu ein helpu i ddeall beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ac i ble y mae’n ein galw.  Gadewch i ni ddiolch i Dduw am yr holl bobl sydd wedi’n helpu ar ein taith o ffydd.