Mam Ioan Fedyddiwr oedd Elisabeth oedd â rhan bwysig yn cefnogi Mair ar ôl iddi feichiogi. Mae Gabriel yn datgelu i Fair fod beichiogrwydd Elisabeth yn arwydd y dylid ymddiried yn addewidion Duw ac y bydd ei addewidion yn cael eu cyflawni. Mae Mair yn brysio i ymweld ag Elisabeth ac wrth iddyn nhw gyfarfod mae rhywbeth anhygoel yn digwydd: mae’r baban yng nghroth Elisabeth yn symud. Thema penodau cynnar Efengyl Luc yw bod Duw yn ffyddlon ac yn cadw ei addewidion – i Sechareia, i Elisabeth, i Fair ac i bobl Israel.
Yn y stori am Elisabeth a Mair, mae yna synnwyr nad yw Duw eisiau ein gadael ni’n ddiymgeledd nac yn unig yn ein bywydau. Gallwn edrych am a bod yn barod i gynnig, lletygarwch i’r rhai sy’n rhannu ein profiadau.
