Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 1

Cyfarchiad Mair

Nid ar adeg y Nadolig y mae stori geni Iesu’n cychwyn. Yn hytrach, mae’n dechrau ar Ŵyl Fai, 25 Mawrth, Gŵyl Cyfarchiad Mair – am resymau amlwg, mae’n union naw mis cyn Dydd y Nadolig!

I lawer o gymdeithasau hynafol, y cenhedliad, nid yr enedigaeth, oedd yn nodi dechrau bywyd dynol ac mae’n nodi dechreuad dirgelwch canolog y ffydd Gristnogol, yr Ymgnawdoliad, pan mae Duw yn dod yn gnawd ac yn dod i fyw yn ein mysg. Mae gwahoddiad a galwad Duw i Fair ddod yn fam i Iesu’n dal i gyfareddu Cristnogion.  Mae’n dangos i ni alwedigaeth – galwad Duw i ni a’i ddiben ar gyfer ein bywydau.

Yr Adfent hwn, gadewch i ni weddïo y bydd Duw yn gwneud ei ewyllys ar gyfer ein bywydau ni’n gliriach ac yn fwy amlwg.