Fe wyddom ni fwy am rieni Ioan Fedyddiwr nad am rieni Iesu. Mae tad Ioan, Sechareia, o’r un enw â phroffwyd yn yr Hen Destament a oedd yn offeiriad yn gwasanaethu yn y Deml yn Jerwsalem. Tra’r oedd ar ddyletswydd, yn mynd i mewn i’r Lle Sanctaidd, daeth Gabriel i’w hysbysu fod ei weddi wedi’i chlywed; bod ei wraig, Elisabeth, yn mynd i gael plentyn. Oherwydd ei oedran, roedd Sechareia yn dangos anghrediniaeth ac mae’n cael ei gosbi trwy gael ei daro’n fud.
Weithiau byddwn yn cael ein taro’n fud gan storïau o ffydd neu o wyrthiau. Weithiau mae’n gwneud lles cyfaddef nad ydym yn gwybod popeth. Ar adegau fel hyn byddai’n werth cofio am ffydd Sechareia pan mae’n cael ei rhyddhau o’i amheuaeth.
