Nasareth yw’r cyntaf o ddau le yn y stori’n arwain at enedigaeth Iesu. O’u cartref yng nghefn gwlad Galilea, mae’n rhaid i Fair a Joseff wneud y daith hir i Fethlehem a dyma’r lle sydd wedi’i gysylltu hyd heddiw gydag Iesu, yn yr enw ‘Iesu o Nasareth’.
Arhosodd Nasareth yn ddinas wedi’i hesgeuluso gydol ei hanes. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif yr adeiladwyd basilica mawr i nodi’r safle lle credir oedd Cyfarchiad Mair – ogof ble cyfarfu Mair â’r angel.
Mae’r ffaith fod Iesu’n dod o Nasareth yn dystiolaeth fod Duw’n cael ei dynnu at y gostyngedig a’r rhai ar yr ymylon; fod Duw yn gweithio trwy’r gostyngedig rai ac nad yw i’w ganfod yn y mannau syfrdanol, llawn hanes ac arwyddocâd.
