Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 6

St Nicolas

Mae chweched diwrnod ein taith yr Adfent wedi’i gadw ers y dyddiau cynnar fel gŵyl sant gyda chysylltiad modern a chlos iawn gyda’r Nadolig – Sant Nicolas.

Esgob Myra oedd Sant Nicolas, rhan o Dwrci heddiw, ond rhan ddwyreiniol o Dalaith Ymerodraeth Rhufain yr adeg hynny. Yn ogystal â bod yn esgob Uniongred y Dwyrain Canol oedd yn bresennol yng Nghyngor Nicaea, mae yna chwedlau hefyd am ofal arbennig Nicolas dros blant. Mae un stori gynnar yn sôn sut yr oedd wedi achub tair merch dlawd rhag cael eu masnachu.  Roedd wedi rhoi arian i fod yn waddol iddyn nhw a hynny trwy ollwng bagiau o aur yn ddienw i lawr y simnai. Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd cwlt Sant Nicolas wedi lledu o’r Eidal i’r Iseldiroedd a dyna pryd y daeth Sinta Klaas, yr esgob yn cario anrhegion, yn gymaint o ran o ysbryd y Nadolig.

Arweiniodd cyfuniad gyda’r traddodiad Seisnig o Siôn Corn at ddisodli, i raddau helaeth, y ddelwedd o esgob yn cario anrhegion gan ysbryd lled baganaidd canol gaeaf wrth i Begwn y Gogledd ddod yn gartref a’r gwneuthurwyr teganau o gorachod yn gymdeithion iddo.