Yn hofran dros Fair a Gabriel mae presenoldeb yr Ysbryd Glân. Mae Ysbryd Duw ar waith trwy’r Beibl, yn ysbrydoli proffwydi’r Hen Destament neu’n llenwi ei arwyr gyda nerth dwyfol, felly nid yw’n syndod clywed fod yr Ysbryd wrth ei waith yng ngenedigaeth Iesu.
Os yw’r Ysbryd Glân â rhan mewn cenhedlu’r Iesu, pan mae’n cael ei eneinio, ar adeg ei fedydd ac yn ei yrru i’r anialwch ar ddechrau ei weinidogaeth, mae Iesu hefyd yn sôn am yr Ysbryd fel rhodd sy’n cael ei roi gan Dduw i bob crediniwr. Gadewch i ni feddwl am sut y gallai Ysbryd Duw fod ar waith yn ein bywydau ni, gan agor posibiliadau newydd yng nghariad Duw.
