Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 25

Y Crist Blentyn

Rydym wedi cyrraedd Gŵyl y Geni a ninnau’n nesáu at y stabl i gael ein cyflwyno i’r plentyn Crist.

Wrth ddathlu’r Geni, rydym yn dathlu’r ennyd pan ymunodd Duw ei natur â’i gread, gan ddod yn un ohonom ni, er mwyn i ninnau allu dod yn gludwyr bywyd tragwyddol.  I’r fan hon y mae’n taith tuag at y Nadolig yn dod â ni – y sylweddoliad mai Crist y plentyn yw Duw yn ein mysg.

Nadolig Llawen. Am weddi heddiw, dyma bennill olaf yn Saesneg un o hoff garolau’r Nadolig.

(Mae’r pennill olaf O Dawel Ddinas Bethlehem yn Saesneg gan nad yw’r fersiwn Gymraeg yn gyfieithiad o’r Saesneg.)