Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 24

Mair Mam Duw

Rydym wedi cyrraedd Noswyl y Nadolig, noson genedigaeth Iesu ac rydym yn dychwelyd at ffigwr dynol iawn, Mair, mam Ein Harglwydd.

Does dim llawer o sôn yn y Beibl am y digwyddiad o eni Iesu ond mae Mair ar unwaith yn gofalu am ei babi fel y byddai unrhyw fam arall – yn paratoi ac yn lapio Iesu mewn dillad magu. Nid yn aml y daw Mair i stori bywyd Iesu ar ôl ei enedigaeth ond pan mae hi, mae yno bob tro fel rhywun sydd bob amser yn gofalu am ei mab. Mae Mair felly’n cael ei chyflwyno fel y fam ddelfrydol.

Rôl Mair yw pwysleisio pwy yw Iesu – hi sy’n gwarantu ei ddynoliaeth a thrwy ei dynoliaeth hi, ac fel Mam Duw, mae hefyd yn dystiolaeth i’w dduwioldeb.