Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 23

Y Bachgen Bach o Ddrymiwr

Heddiw, mae’r ‘Bachgen Bach o Ddrymiwr’ yn rhan o’r rhestr o hoff garolau’r Nadolig: Mae’n seiliedig ar stori o wlad Tsiec sy’n adrodd mai dim ond ar ôl i’r doethion ymweld, gadael eu rhoddion ac ymadael, y sylweddolodd Mair a Joseff fod ffigwr bach yn crio yng nghornel o’r stabl. Y bachgen bach o ddrymiwr oedd hwn, rhan o osgordd y doethion a oedd wedi’i adael ar ôl. Mae Mair yn ei wahodd i chwarae ei ddrymiau i’r baban Iesu, sy’n ei wobrwyo gyda gwên. I rai, gallai hyn fod yn rwtsh pur. I eraill, mae’r rhoddion mwyaf di nod, wedi’u rhoi’n ddidwyll, yn rhan o’r hyn sy’n gwneud y Nadolig yn Nadolig mewn gwirionedd . Gadewch i ni ddiolch i Dduw am ba roddion bynnag o hunan fynegiant neu ddawn mae ef wedi’u rhoi i ni fel hobi, crefft neu ddiwydrwydd.