Yn ôl Efengyl Luc, pan oedd Iesu’n cael ei eni, roedd bugeiliaid allan yn y caeau’r noson honno’n gofalu am eu defaid. Ar ôl i angel dienw, ac yna gôr nefol, ymddangos, maen nhw’n cytuno i fynd i chwilio am y plentyn newydd anedig.
Ychydig iawn o barch oedd i fugeiliaid yn yr hen fyd. Pobl gyffredin oedden nhw ac maen nhw’n cynrychioli’r dosbarth cyntaf o bobl roedd Iesu’n anelu ei ddysgeidiaeth atyn nhw. Roedd Iesu’n cymharu’i hunan â bugail yn ei ddysgeidiaeth, gan ddefnyddio cymariaethau o fywyd bugeiliaid fel y ddafad golledig ac wynebu Duw ar ddydd y farn fel rhan o fugeilio. Roedd ffermio a chymdeithas y werin yn gyfarwydd i Iesu; dyna ble roedd yn byw ei fywyd ac wrth wneud hynny roedd yn dangos tuedd Duw tuag at y tlodion.
Gadewch i ni fyfyrio ar lawenydd Duw drosom fel ag yr ydym. Rydym i gyd wedi’n galw yn symlrwydd ein bodolaeth i wrando ar neges yr angylion.
