I Gristnogion, mae’r enw Bethlehem wedi’i gysylltu erioed gyda genedigaeth Crist. Roedd hynny’n fater o broffwydoliaeth a gofnodwyd yn llyfr Samuel a’i gyfleu yn Llyfr Micah. Mae ysgrifenwyr Cristnogol cynnar, megis Justin y Merthyr, yn disgrifio’r ogof lle ganwyd Iesu. Yn ddiweddarach fodd bynnag, adeiladodd y Rhufeiniaid demlau dros yr ogof a mannau oedd o arwyddocâd i’r Cristnogion cynnar.
Trodd y llanw i Fethlehem gyda thröedigaeth yr Ymerawdwr Cystennin at Gristnogaeth ar ddechrau’r bedwaredd ganrif. Aeth ei fam, Helena, ati i ail hawlio’r safleoedd oedd yn bwysig i’r ffydd Gristnogol, gan adeiladu basilica pwysig ym Methlehem wedi’i gysegru i’r Geni.
Heddiw, mae Bethlehem yn dref lle mae brwydro amdani. Mae’n hawdd anghofio nad yw Bethlehem ond 5.5 milltir i’r de o Jerwsalem, ac yn y dyddiau cyn y wal, roedd yn bosibl cerdded o’r ddinas i addoli yn y basilica.
Saif Bethlehem ar groesffordd ysbrydol rhwng y gorffennol a’r presennol, sancteiddrwydd a thrais, rhyfel a heddwch, tywyllwch a goleuni. I fyd felly y cafodd Iesu’r Meseia ei eni.
