Mae’r Brenin Herod Fawr yn ymddangos yn Efengyl Mathew fel Brenin Jwdea, yn preswylio yn ei balas yn Jerwsalem. At Herod yr aeth y doethion gyntaf ac er iddo eu cyfeirio i Fethlehem, roedd eisoes yn cynllunio sut i gael gwared ar y bygythiad newydd i’w orsedd.
Mae ysgrythur a hanes yn cytuno fod Herod yn greulon wrth natur. Doedd yn ddim ganddo ‘gael gwared’ ar aelodau o’i deulu a oedd wedi tramgwyddo yn ei erbyn. Yn ei Efengyl, mae Mathew yn ei bortreadu fel teyrn, yn creu’n fwriadol gyferbyniad rhwng y ddelwedd fydol o deyrnas sydd ynghylch gorthrymu, grym a pharanoia a’r Deyrnas o Heddwch y mae’r plentyn newydd anedig wedi dod i’w sefydlu. Gadewch i ni fyfyrio ar natur grym ac ar y nerthol, oherwydd gwers yr Ysgrythur yw bod teyrnasu’n hudo ond nid yn bodloni.
