Y trydydd rhodd oedd thus, rhywbeth drud arall, yn adnabyddus iawn i ysgrifenwyr y Beibl. Gydol y Beibl mae arogldarth yn rhan annatod o’r addoli a gynigir i Dduw.
Math arbennig o gwm resin yw thus, fel myrr, ac mae’n adnabyddus ers talwm iawn am fireinder ei arogl wrth ei gynhesu. Mae’n cael ei wneud o’r goeden sy’n cael ei galw heddiw yn Boswellia ac mae’n tyfu yn y rhannau mynyddig y Dwyrain Canol, Affrica a’r India. Mae’r enw ‘thus’ mewn gwirionedd yn golygu ‘arogldarth o ansawdd arbennig iawn’.
Mae llosgi thus mewn addoliad hefyd yn symbol o weddi, sy’n tarddu o ymarfer beiblaidd. Wrth i’r thus godi i’r nef, felly rydym ni’n credu fod ein gweddïau ninnau’n cael eu clywed o flaen Gorsedd Duw.
