Ni fyddai’r un ddrama’r geni’n werth ei halen heb y magi, y tri brenin neu’r doethion, a ddilynodd y seren i Fethlehem. Yn y Beibl, nid oedd yna dri a doedden nhw ddim yn brenhinoedd. Casglodd chwedl ddiweddarach fod yna dri oherwydd eu bod wedi rhoi tri anrheg – aur, thus a myrr. Dim ond yn ddiweddarach roedden nhw’n cael eu galw’n frenhinoedd. Efallai bod y magi’n rhywbeth tebyg i wyddonwyr eu dydd. Er bod eu gwyddoniaeth yn elfennol, roedden nhw’n ceisio deall dirgelion y cread ac, ar adeg pan oedd popeth yn cael ei gyfrif yn gysylltiedig, roedden nhw’n yn astudio’r nefoedd er mwyn ateb cwestiynau ynghylch y ddaear.
