Mae heddiw’n ddydd gŵyl santes arall sydd wedi’i chysylltu â’r Nadolig, ond nid fel rhan o’r stori ysgrythurol. Fodd bynnag, mae’r Beibl yn tystiolaethu i’r ffaith fod bod dilynwyr Iesu yn gallu arwain at erledigaeth a dod yn ‘ferthyr’.
Yn ôl y cofnod, merthyrwyd Lucy yn Syracuse yn yr erledigaeth fawr olaf gan yr ymherodwyr Rhufeinig cyn tröedigaeth Cystennin. Roedd wedi’i chyhuddo o fod yn Gristion gan ddarpar gariad a gafodd ei wrthod. Mae hi wedi cael ei chofio fel un o’r merthyron blaenllaw yr Eglwys gynnar.
Ystyr Lucia yn Lladin yw golau, a chan bod dydd gŵyl Lucy ar 13 Rhagfyr, yn agos at Heulsaf y Gaeaf, daeth y rhai a oedd yn ei pharchu i’w chysylltu â goleuni Duw.
