Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 12

Dafydd

Cymeriad arall yng nghefndir stori’r Nadolig yw’r Brenin Dafydd, ail Frenin Israel a sylfaenydd llinach frenhinol Jwda. Un o’r dirgelion o gwmpas Iesu yw’r ffordd y mae’n ei gysylltu â phroffwydoliaeth yr Hen Destament. Roedd yr Ysgrythurau wedi hen ddisgrifo’r Meseia addawedig fel ‘Mab Dafydd’, Brenin i gystadlu â’r Dafydd cyntaf, a oedd yn cael ei weld fel pinacl brenhiniaeth ddwyfol.  Mae Dafydd yn cael ei gyflwyno fel model rôl i Iesu, y brenin cyfiawn sy’n denu ffafr ac addewid Duw.