Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 11

Joachim ac Anna

Mae bywgraffiad cyfan wedi’i ddatblygu ar gyfer Mair, gyda’i rheini yn cael eu henwi’n Joachim ac Anna. Mae cymaint o hanes a chwedl wedi plethu cymaint trwy’i gilydd fel nes oes fawr ddim ar ôl ond hanes y chwedl.

Mae’n ymddangos fod rhieni Mair wedi cael eu henwi’n gynnar iawn. Ceir y cyfeiriadau cyntaf at Joachim ac Anna’n yn efengylau apocryffaidd yr ail ganrif. Dywedir y daeth Joachim o Nasareth a bod Anna wedi’i geni ym Methlehem. Roedd Joachim ac Anna wedi torri’u calonnau nad oedd ganddyn nhw blant. Trodd Joachim at weddi ac ymprydio yn yr anialwch, ac arhosodd Anna adref yn ei thrallod. Mewn gweledigaeth, cafodd y ddau gwybod eu bod i gael eu bendithio gyda phlentyn ac mae’r ddau’n rhuthro i gyfarfod a chofleidio’i gilydd yn llawen wrth y Llidiart Aur. Mae’u cusan naill ai’n aduniad hapus neu’n ennyd gyfriniol cenhedliad Mair.

Gadewch i ni ddiolch i Dduw am y rhai sydd wedi bod yn ffynhonnell sefydlogrwydd yn ein bywydau ac sydd wedi dangos cefnogaeth i ni.