
Cafodd ymgynghoriad eang a luniwyd i geisio deall yn well a hyrwyddo safle eglwysi gwledig yng ngogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru ei lansio gan Esgobaeth Llanelwy.
Mae’r esgobaeth, sy’n rhan o’r Eglwys yng Nghymru, ac sy’n gweithredu dros ardal eang yn ymestyn o Landudno yn y gogledd-orllewin hyd at Y Drenewydd yn y de, wedi neilltuo cyllid ac arbenigedd i ymgynghori â chymunedau ynghylch ailgysylltu’r eglwys â phobl, grwpiau, ysgolion a mudiadau lleol.

Bydd yr ymgynghoriad dan arweiniad Archddiacon Maldwyn, yr Hybarch Ddr. Barry Wilson. Meddai: “Mae eglwysi gwledig ledled yr esgobaeth am fod yn fannau agored, croesawgar, cynhwysol a pherthnasol sy’n cefnogi eu cymunedau ac yn cynnig lle ysbrydol i bobl leol ac ymwelwyr.
“Mae pryderon wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae cynulleidfaoedd yn poeni am y ddelwedd bod trwch yr aelodau’n oedrannus, yr anhawster o ddenu aelodau newydd, yn enwedig teuluoedd ifanc, costau cynnal a chadw adeiladau hynafol ac ariannu’r ddarpariaeth o glerigwyr.
“Fel rhan o’r ymgynghoriad, fe fydden ni’n chwilio am gyfleoedd i sgwrsio gyda chymaint o bobl â phosib mewn cymunedau gwledig er mwyn ceisio deall sut all yr eglwys ymgysylltu’n well gyda phobl a chymunedau, a rhannu’r ffydd Gristnogol yn ehangach, yn enwedig gyda phlant ifanc a’u teuluoedd, y gymuned amaethyddol a’r rhai hynny sy’n byw bywydau ynysig.
“Ceir eisoes enghreifftiau o arferion gwirioneddol dda yn ein heglwysi, llawer ohonyn nhw’n parhau i fod yn galon eu cymunedau lleol, ond fe fydd yr ymgynghoriad hwn yn nodi sut mae modd gwneud yn well, sut i fynd i’r afael gyda rhai o bryderon cynulleidfaoedd a chyfarfod ag anghenion y gymuned gyfan.”

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, mae oddeutu 41% o boblogaeth yr esgobaeth y byw mewn cyd-destun gwledig. Mae eglwysi gwledig yn amrywio: o rai sy’n gwasanaethu poblogaethau o filoedd, i’r rhai hynny mewn cymydau bychain o lai na 250 o bobl. Mae gan ambell un gynulleidfa gweddol fawr, ond ar y cyfan mae cynulleidfaoedd y Sul yn gyfyngedig i rhwng 10 ac 20 o bobl.
Dywedodd Esgob Llanelwy, Y Gwir Barchedig Gregory Cameron, sy’n cefnogi’r ymgynghoriad: “Mae dros hanner ein heglwysi wedi’u lleoli mewn cymunedau gwledig lle mai’r eglwys weithiau ydy’r unig sefydliad sy’n cynnig cefnogaeth a gwasanaeth i’r trigolion. Mae esgobaeth Llanelwy wedi’i hymrwymo i weithio’n galed er mwyn sicrhau bod presenoldeb a gweinidogaeth yr eglwysi hyn ynghyd â’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, yn ffynnu i’r dyfodol.”
Mae’r esgobaeth wedi sefydlu Gweithgor Strategaeth Wledig i oruchwylio a llunio’r ymgynghoriad. Mae’n cynnwys clerigion a lleygwyr o bob rhan o’r esgobaeth, dan gadeiryddiaeth John Gambles, cyn-athro sy’n byw ger Llangollen. Meddai John: “Mae’n bleser cael cadeirio’r grŵp. Fel warden eglwys wledig yn Llandysilio, fy ngobaith ydy y bydd ein gwaith yn ein harwain at dyfiant go ddifrif, yn hytrach na cheisio goroesi yn unig.”
Mae’r Gweithgor hefyd yn cynnwys y Canon Nia Wyn Morris, a fu’n gweithio mewn lleoliadau gwledig am yr 16 blynedd diwethaf. Yn ôl Nia: “Dwi’n poeni am ddyfodol ein heglwysi gwledig ac yn sylweddoli fod angen gweithredu dull realistig a gonest os ydyn ni o ddifrif ynglŷn â thyfu Teyrnas Dduw. Mae gan eglwysi gwledig botensial enfawr ac er mwyn gwneud y gorau o hynny, mae angen iddynt fod yn ganolfannau ymarferol o gefnogaeth ac gweithgarwch yn ein cymunedau, ac nid cynulleidfaoedd sy’n cyfarfod ar y Sul yn unig.”

Mae Esgobaeth Llanelwy yn cynnal yr ymgynghoriad hwn gyda’r Canon Ddr Jill Hopkinson, a fu’n Swyddog Gwledig Cenedlaethol Eglwys Loegr rhwng 2004 a 2018 ac sydd bellach yn Diwtor Gweinidogaeth Wledig yng Nghanolfan Ffurfio Gweinidogaeth yng Ngholeg Sarum, Caersallwg. Dywedodd Dr Hopkinson: “Mae datblygu strategaeth wledig yn anelu at ailgysylltu’r eglwys a’r gymuned, i helpu datblygu eglwys sy’n edrych allan ac sy’n medru ymgysylltu ag anghenion, a rhannu’r ffydd Gristnogol gyda phawb o bobl cefn gwlad, yn enwedig plant ifanc a’u teuluoedd, y gymuned amaethyddol a’r rhai hynny sy’n byw bywydau ynysig. Bydd gweddi a dyfnhau disgyblaeth wrth wraidd y strategaeth wledig, gan gydnabod fod gan bawb, yn glerigion a phob lleyg, ran i’w chwarae.”
Cynhelir ymgynghoriadau mewn cymunedau gwledig trwy gydol misoedd Mawrth ac Ebrill, gyda chyfleon i ymateb ar-lein hefyd.
Ychwanegodd Archddiacon Barry: “Cymerwch y cyfle i gymryd rhan a chael dweud eich dweud o ran siapio’r eglwys mewn cymunedau gwledig ar gyfer y dyfodol.”
Mae Esgobaeth Llanelwy yn un o chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, Talaith annibynnol o’r Gymundeb Anglicanaidd, Mae gwasanaethau a gweithgareddau rheolaidd yn digwydd mewn 216 o eglwysi ac mae’r esgobaeth yn gofalu am 50 o Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.