Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

GWEDDÏO’N GREADIGOL

Mae sawl un ohonom yn deall bod deunyddiau creadigol fel lluniau, ffotograffau neu fideo yn gallu ein helpu i ‘weld yn wahanol’ wrth i ni ddyfnhau ein siwrne i weddi. Rhowch gynnig ar rai o’r adnoddau hyn!

Celf Gristnogol a’r Efengylau

Mae hyn yn defnyddio prydferthwch celf a’r Efengylau i’n helpu i ddod yn nes at Dduw. Mae postio dyddiol yn cyfuno darn o gelf sydd yn berthnasol i Efengyl y dydd gyda myfyrdod byr. Mae yna hefyd fyr fyfyrdodau ar fideo ar themâu megis COP 26 neu Dydd Mercher y Lludw.

Gweddïo gyda Chelf

Myfyrdodau misol ar luniau o wahanol arddulliau, wedi’u bwriadu i’n helpu i ymgysylltu’n ddyfnach gyda darn o’r Ysgrythur.

The Chosen’ (‘Y Dewisedig’)

Mae’r gyfres newydd hon sydd ag iddi ganmoliaeth uchel, am fywyd Crist yn dweud y stori am Iesu drwy lygaid y bobl hynny a ddaeth ar ei draws. Mae tri thymor (o 7 a ragwelir) ar gael ar App.

Seeing More’ (‘Gweld Mwy’)

Casgliad byr o fideos YouTube sy’n rhyfeddu ac sy’n ein gwahodd i archwilio ein profiadau mewnol o Dduw. Gallwch chwilio am y clipiau fideo o dan wahanol themâu , fel ‘Iesu’, ‘Cariad’ neu ‘Temtasiwn’.

Gweddïo Mewn Lliw

Profwch y ffordd hyfryd yma o weddïo os na allwch ddod o hyd i’r geiriau iawn neu fod eich meddwl yn crwydro – neu efallai na fedrwch eistedd yn llonydd! Cliciwch ar y wefan am adnoddau ac awgrymiadau sydd yn rhad ac am ddim, gan gynnwys ffordd greadigol o ddilyn Lectio Divinia.

Chwarae a Chredu (‘Godly Play’)

Mae Chwarae a Chredu yn ffordd feddylgar o weithio gyda phlant. Mae yn ffordd o ddweud storïau Beiblaidd (a themâu sanctaidd) drwy help ffigyrau pren, a thywod, gydag amser i bendroni dan arweiniad. Gall Chwarae a Chredu gael ei ddefnyddio mewn llawer o ffyrdd amrywiol ac mae’r sgriptiau sy’n gysylltiedig bellach wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg. Mae’r Grŵp Ysbrydolrwydd yr Esgobaeth yn cynnig encilion ar Chwarae a Chredu neu gallwch ddilyn cwrs byr er mwyn dod yn hyfforddwr wedi’i achredu mewn Chwarae a Chredu.

Darllenwch am Chwarae a Chredu yn Teulu Asaph