Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

CASGLIAD YR ESGOBAETH

Rhoddiad gan ein cynulleidfaoedd

Mae Casgliad yr Esgobaeth yn rhodd ariannol gan ein cynulleidfaoedd i elusen a gaiff ei dewis gan aelodau Cynhadledd Esgobaethol Llanelwy. Cyflwynir Casgliad yr Esgobaeth i’r elusen a gaiff ei dewis yn y Gynhadledd Esgobaethol bob mis Hydref.

CASGLIAD YR ESGOBAETH 2025

RABI

Gwybodaeth i ddilyn. 

CASGLIAD YR ESGOBAETH 2024

Beiciau Gwaed Cymru

Lansiwyd apêl Casgliad yr Esgobaeth 2024 yng Nghadeirlan Llanelwy yng Nghynhadledd yr Esgobaeth. Y derbynnydd fydd Beiciau Gwaed Cymru.

2024 Cyflwynir Casgliad yr Esgobaeth 2024 i Beiciau Gwaed Cymru sy’n darparu gwasanaeth cludo di-dâl i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan ddibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr a rhoddion.

EsgobaethMae gwirfoddolwyr yn cludo gwaed, cyffuriau, meinweoedd dynol ac eitemau meddygol eraill rhwng ysbytai, banciau trallwyso gwaed a chyfleusterau meddygol eraill i gynorthwyo’r GIG.

Mae gan Beiciau Gwaed Cymru wyth grŵp a drefnir yn lleol, dau ohonynt ar waith yn ardal Esgobaeth Llanelwy: Grŵp Wrecsam, sy’n gwasanaethu gogledd-ddwyrain Cymru a Grŵp Powys, sy’n gwasanaethu’r canolbarth.

Yn ogystal, gall y beicwyr gludo llaeth mamau o Fanciau Llaeth y GIG yng Nghaer, Birmingham a Bryste i’w hysbytai lleol ac, mewn argyfwng, yn syth i famau a’u babanod yn eu cartrefi.

CASGLIAD YR ESGOBAETH 2023

The Trussell Trust

Bydd Casgliad yr Esgobaeth 2023 yn mynd i gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n darparu rhwydwaith o fanciau bwyd ledled Cymru a’r DU.

Mae’r manylion yn Saesneg un unig.

CASGLIAD YR ESGOBAETH 2022

Rhoddiad gan ein cynulleidfaoedd

Mi fydd Casgliad yr Esgobaeth 2022 yn mynd i brosiest ffermio yn y Esgobaeth De o Orllewin Tanganyika.

Yn y ffilm hon yn Saesneg, mae Hilary ac Adrian Murray yn ymweld â’r fferm ac yn clywed am y cynlluniau.