Delwedd liwgar a dramatig yn dangos teulu Iesu fel ffoaduriaid yw enillydd Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig Esgob Llanelwy.


Mae’r dyluniad, gan Elan Jones, 10 mlwydd oed o Ysgol Ysbyty Ifan, wedi’i droi’n gannoedd o Gardiau Nadolig y bydd Esgob Gregory Cameron yn eu hanfod at deulu, ffrindiau a chydweithwyr o gwmpas y byd.
Denodd y gystadleuaeth eleni dros 1,300 o geisiadau oddi wrth 51 o ysgolion eglwys ar draws Esgobaeth Llanelwy. Y thema oedd y Teulu Sanctaidd yn ffoi i’r Aifft.
Meddai Esgob Gregory: “Rwy’n meddwl ei fod yn ardderchog fod pob un o’n 51 o ysgolion eglwys yn fodlon gweithio gyda mi pob blwyddyn mewn cystadleuaeth i ddylunio Cerdyn Nadolig. Rwy’n cael cerdyn hardd ac arbennig sy’n arddangos y gwaith rhagorol mae’n hysgolion eglwys yn ei wneud wrth ddarparu addysg i bobl ifanc. Mae’r enillydd eleni, Elan Jones, wedi cynhyrchu darlun lliwgar iawn a dramatig o daith y Teulu Sanctaidd i’w halltudiaeth yn yr Aifft, sy’n ein hatgoffa fod Duw’n rhannu mewn dioddefaint pobl a’i fod yn arbennig o agos at ffoaduriaid a’r rhai ar ymylon cymdeithas.”
Bydd Elan yn derbyn gwobr o docyn llyfr a thystysgrif ynghyd â chopïau o’r cerdyn i’w hanfon at deulu a ffrindiau. Bydd yr ail a’r trydydd enillydd hefyd yn derbyn gwobrau a thystysgrifau, sef eleni:

Rhoddir tystysgrifau hefyd am ddyluniadau sy’n cyrraedd Cymeradwyaeth Uchel.
Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd Esgob Gregory yn cyflwyno’r gwobrau’n bersonol mewn gwasanaethau arbennig ar gyfer yr achlysur. Am yr ail flwyddyn yn olynol, oherwydd Coronafeirws, nid yw hynny’n bosibl. Yn hytrach, mae’r Esgob wedi anfon neges fideo yn llongyfarch yr enillydd. Ynddi mae’n dweud fod y dyluniad buddugol yn ‘llun hyfryd yn dangos y Teulu Sanctaidd yn dianc i’r Aifft ar ôl clywed am fygythiad y Brenin Herod i’w diogelwch. Roedd beirniaid y gystadleuaeth yn hoffi’n benodol mor lliwgar oedd y llun a lliw yr haul yn codi y tu ôl i’r Teulu Sanctaidd ar eu taith tuag at yr Aifft…. Rwy’n falch iawn o allu dweud fod y cerdyn hwn yn awr yn cael ei anfon i’m ffrindiau a’m cydweithwyr mewn eglwysi dros y byd i gyd, yn ogystal ag at aelodau o’m teulu ac at y cysylltiadau rwyf wedi’u datblygu yn ystod fy ngweinidogaeth. Mae’n wirioneddol braf gallu anfon dyluniad unigryw. Diolch yn fawr iawn Elan am dy ddyluniad; diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi’r gystadleuaeth.”
Mae Esgobaeth Llanelwy yn gofalu am 51 o Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, gan gynnwys un Ysgol Uwchradd rhannu ffydd. Mae ysgolion Eglwys wedi’u hymrwymo i ddathlu’r dreftadaeth gyfoethog o ffydd, iaith a diwylliant Cymru ac yn ganolbwynt cymunedol naturiol, yn cael eu cefnogi gan rwydwaith o glerigion ac eglwysi ar draws y Genedl.
Mae Esgobaeth Llanelwy yn rhan o’r Eglwys yng Nghymru, Talaith hunanlywodraethol o fewn Cymundeb Anglicanaidd o Eglwysi byd eang. Mae’r esgobaeth yn gymuned o dros 200 o eglwysi a 51 o ysgolion eglwys, sy’n cynnwys siroedd Siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint, Wrecsam a rhannau o Wynedd a Phowys.
Mae’r Esgob wedi anfon neges fideo yn llongyfarch yr enillydd.