Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

ADNODDAU GRŴP YSBRYDOLRWYDD

Mae’r Grŵp Ysbrydolrwydd bob amser yn gweithio i gynhyrchu adnoddau gweddi ar themâu penodol, gan gynnwys litwrgïau myfyriol a deunydd dwyieithog. Rydym bob amser yn falch o dderbyn awgrymiadau a syniadau! Gallwch gysylltu â ni ar stasaphspirituality@cinw.org.uk

Yn garedig iawn bu i’r Esgob John Pritchard ffilmio myfyrdod arbennig ar ein cyfer pan ddaeth i Sant Beuno i’n harwain yn ein diwrnod tawel Esgobaethol (18 Chwefror 2023). Gallwch ei wylio yma – cliciwch ar y llun i weld y fideo, a defnyddiwch y tab ‘Penawdau’ ar y gwaelod i’ch cysylltu yn unionsyth â’r saith cwestiwn mae yn eu trafod.

Arweiniodd Dr Rowan Williams ddosbarth meistr ar weddi yng Nghadeirlan Llanelwy. Daeth dros 200 o bobl ynghyd i wrando ar ei ddysgu ysbrydoledig ar weddi mewn sgwrs o dan y pennawd, ‘Finding the Centre: The Journey of Prayer’ (Canfod y Canol: Taith Gweddi). Gallwch wylio yma eto.

 

Adnoddau Gweddi

Gweddïo Dros Heddwch (gan gynnwys Gweddi dros Wcráin)

Llyfr Bach o Weddïau ar gyfer y rhai sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr

Cadeirlan Llanelwy; Pererindod Gweddi

Litwrgïau dwyieithog

Litwrgi wrth Gychwyn (A bilingual Liturgy of Arrival)

Litwrgi Boreol o Draddodiad Hynafol y Celtiaid  (Bilingual Morning Office based on texts from Carmina Gaedelica: Wee Worship Book, Morning Liturgy F)

Litwrgïau Saesneg ei hiaith

A Contemplative Morning Office

Morning Office based on texts from Susan Sayers

Evening Office from the Iona Community (Wee Worship Book Evening Liturgy D)

Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os hoffech gopi at ddefnydd personol neu dros dro.

Pererindod Gweddi'r Gadeirlan

Mae’r Gadeirlan yn le sydd wedi ei gysegru gan ganrifoedd o weddi … mae’n le cul, lle gellwch nesau at Dduw, a chael heddwch i’ch enaid. Mae’r Pererindod Ysbrydol hon yw rhywbeth o harddwch a gwerth a fydd, gobeithio, o gymorth ichi yn eich ymweliad â’r lle sanctaidd hwn.‘ (Esgob Gregory Cameron)

Mae’r Pererindod Gweddi ar werth yng Nghaffi’r Cyfieithwyr am £5. Gellir postio copïau hefyd (£7.50 gan gynnwys p&p): archebwch trwy stasaphspirituality@cinw.org.uk neu’r Swyddfa Esgobaethol (01745 582245).