Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 22

Yr Ychen a’r Asyn

Mae’r ychen a’r asyn yn ffigyrau cyfarwydd fel teganau’r preseb, yn gwmni i’r baban Iesu, ond beth yn union oedd y stabl ble ganed Iesu?

Mae gair preseb yn cael ei ail adrodd ddim llai na thair gwaith yn Efengyl Luc a chymerwyd o hynny fod Iesu wedi’i eni mewn stabl. Fodd bynnag, mae dadansoddiad diweddar o’r testun Groeg yn awgrymu y gallai’r gair ‘gwesty’ olygu rhywbeth tebycach i ‘ystafell i westeion, yn hytrach na ‘gwesty’ ei hunan. Efallai bod Mair a Joseff yn chwilio am eu perthnasau ym Methlehem ac, oherwydd bod yno gymaint o westeion, nad oedd lle iddyn nhw mewn ‘ystafell deulu’ ac y bu rhaid iddyn nhw symud i’r ystafell i lawr grisiau, lle, fel arfer, yr oedd yr anifeiliaid yn cael eu cadw, gyda phreseb.

Daeth yr ychen a’r asyn yn holl bresennol yn y traddodiad Uniongred. Disgrifir yr Ychen fel anifail glân yn yr Hen Destament a daeth i gynrychioli’r Iddewon, ar asyn (anifail aflan) i gynrychioli’r cenhedloedd nad oeddyn  nhw wedi’u dewis gan Dduw – eto daeth Iesu’n iachawdwr i’r ddau. Hyd yn oed os nad ydym yn darllen yr Ysgrythurau mewn ffordd symbolaidd, mae presenoldeb ychen ac asyn yn ein hatgoffa mai rhywbeth corfforol iawn oedd genedigaeth Iesu a bod dimensiynau  byd eang i’w gnawdoliaeth. Daeth Iesu atom fel Arglwydd yr holl gread.