Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 17

Brenin Myrr - Balthasar

Myrr, efallai, yw’r mwyaf enigmatig o’r tri anrheg y daeth y magi at Iesu ac mae traddodiad yn dweud ei fod yn cael ei gynnig gan Bathasar .

Mae myrr yn ymddangos yn yr Hen Destament a’r Testament Newydd, ble mae’n cael ei gydnabod fel un o’r sylweddau mwyaf drud a gwerthfawr. Mae’n cael ei ddefnyddio fel persawr, yn aml yn cael ei gymysgu ag aloewydden ac mae’n gynhwysyn yn yr olew sanctaidd a ddefnyddir i eneinio a chysegru. Ym mhob un o’r pedair Efengyl, mae llestr drud o fyrr yn cael ei ddefnyddio i eneinio Iesu ac i olchi ei draed. Adeg y croeshoeliad, mae Iesu’n cael cynnig gwin wedi’i gymysgu â myrr sy’n ymddangos ei fod wedi’i fwriadu fel tawelydd.  Mae myrr hefyd yn ymddangos ymysg y sbeisys a ddefnyddir i eneinio cyrff marw mewn paratoad ar gyfer claddu.

Resin gwm yw myrr, wedi’i gynhyrchu o’r goeden Commiphora myrrha, sy’n tyfu yn Arabia a rhannau o’r Dwyrain Canol. Roedd gofyn mawr amdano ac roedd yn rhodd eithriadol o ddefnyddiol i’w roi. Hyd yn oed heddiw, mae’n dal i gael ei ddefnyddio mewn meddyginiaeth.

Myrr  yn ei ystyr gyfriniol sydd wedi ymddangos mewn chwedloniaeth, gallai’r rhodd hwn dangos mai, o’r cychwyn cyntaf, rhan o gynllun Duw ar gyfer Iesu oedd ei farwolaeth ar y groes. Mae rhodd o fyrr yn arwydd o dristwch ac nid yw dioddefaint byth yn bell i ffwrdd ond nid yw’n cael y gair o olaf. Y gair olaf yw bod Duw yn ffyddlon ac i’w ymddiried ynddo.