Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 5

Joseff

Pan gyhoeddodd yr angel y newyddion am enedigaeth Iesu, roedd Mair eisoes wedi dyweddïo gyda dyn o’r enw Joseff. Cyn iddyn nhw gael cyfathrach rywiol, roedd Mair wedi darganfod ei bod yn disgwyl plentyn.  Mae Joseff yn derbyn Mair ac yn gofalu amdani hi a’i phlentyn, gan fynd â nhw i ddiogelwch yn yr Aifft ac yn y pendraw, yn gwneud cartref gyda nhw yn Nasareth. Fodd bynnag, ychydig iawn o arwyddocâd i Joseff sydd i’w weld ym mywyd Iesu.  Pan ddaeth Iesu’n ôl i Nasareth ar ddechrau ei weinidogaeth, mae’n cael ei alw’n ‘Fab Mair’ yn hytrach na’r cyfeiriad arferol at y tad.

Mae Joseff yn cael ei ddiffinio gan ei ofal am ei wraig a’r plant sy’n cael eu rhoi iddo. Wrth i ni fyfyrio ar Joseff a natur bod yn dad dynol, cawn gofio adegau o fywyd teuluol da.