Yr Archangel Gabriel yw’r ffigwr arall yn stori Cyfarchiad Mair. Mae Gabriel, sy’n golygu “Duw yw fy nerth”, yn pontio’r Hen Destament a’r Newydd, yn ymddangos gyntaf yn llyfr Daniel.
Mae angylion yn fodau cyfrin, sydd, mewn Groeg yn y Testament Newydd, yn llythrennol yn negeswyr Duw. Yn yr Ysgrythurau, mae Angylion yn cael eu gweld fel gweision Duw yn y nef, rhan o’r llu nefol sydd ar gael i ymladd ar ochr Duw. Yn aml nhw oedd y cyfryngwyr rhwng Duw a Dynoliaeth.
Efallai fod angylion yn ein hatgoffa fod presenoldeb Duw yn treiddio’r greadigaeth gyfan, popeth yn siarad am nerth a rhyfeddod Duw. Gadewch i ni weddïo am weledigaeth gliriach o Dduw yn ein bywydau ni ein hunain.
