Clergy Log In Church in Wales Church near me
3

Diwrnod 2

Y Forwyn Fair

Y wraig yng nghanol stori’r Nadolig yw Mair, wedi’i dewis gan Dduw i fod yn fam Iesu. Ychydig iawn o’i hanes sydd yn y Beibl. Roedd ganddi gyfnither, hen, Elisabeth, ac wedi’i magu yn Nasareth yng ngogledd y Wlad Sanctaidd. Roedd Mair yn ferch ifanc, newydd ddyweddïo gyda Joseff pan drodd ymweliad angel ei byd â’i ben i lawr.

Ychydig sy’n wybyddus am Fair y tu allan i’r Ysgythrau. Mae sôn amdani mewn ysgrifau Iddewig ac mae’n cael ei galw’n Miriam mewn ysgrythurau Islamaidd. Mae dychymyg diwinyddion wedi dyfeisio ac ail ddyfeisio Mair trwy’r canrifoedd.

Mae’n cymryd math arbennig o ddewrder i ddweud ‘ie’ i Dduw pan mae’n gofyn i chi dderbyn galwad a fydd yn dod â chywilydd ar eich pen. Efallai y byddwn ninnau hefyd yn sylweddoli fod galwedigaeth Duw yn gofyn i ni wneud pethau anodd. Gadewch i ni weddïo am ddewrder Mair a’i didwylledd at ewyllys Duw.